Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig profion PSA ar eu campysau
Sgwrs gydar hogia: Cynigiodd Grŵp Llandrillo Menai sgrinio canser y prostad am ddim i fwy na 60 o staff mewn cydweithrediad â Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru gyda'r nod o annog rhagor o drafod am iechyd dynion.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cymryd cam blaengar ymlaen ym maes gofal gweithwyr drwy ymuno â Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru i gynnig sgrinio Antigen Penodol i'r Prostad (PSA) am ddim ar eu campysau.
Daeth dros 60 o aelodau staff gwrywaidd i gael eu profi ar dri o gampysau'r coleg: Glynllifon, Llangefni, a Llandrillo-yn-Rhos. Roedd y canlyniadau ar gael o fewn 24 awr, a nod y fenter ydy annog sgwrs am iechyd dynion a gobeithio y bydd bellach yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Ysbrydoliaeth y digwyddiad : Stori Haydn
Daeth yr ysbrydoliaeth i'r diwrnodau profi o gymuned y coleg. Cafodd Haydn Jones, Technegydd Gweithdy yng Nglynllifon, ddiagnosis o ganser y prostad er nad oedd ganddo unrhyw symptomau o gwbl. Yn dilyn triniaeth lwyddiannus, datblygodd Haydn berthynas agos â Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru.
Roedd yn benderfynol o amddiffyn ei gydweithwyr, a gweithiodd Haydn â'i reolwr, Martin Jardine, i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth yn fewnol yn y coleg. Dechreuodd yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar ffurf negeseuon ar y bwrdd gwaith a chefnogaeth gan gymheiriaid ac yna llwyddwyd i sicrhau cyllid i gynnig y profion PSA diweddar.
Wrth drafod pwysigrwydd y fenter, dywedodd Haydn:
"Doedd gen i ddim symptomau ac roeddwn i'n teimlo'n weddol iach ar y pryd. Doeddwn i ddim yn gwybod bod gen i ganser y prostad nes i fy meddyg teulu, ar ôl fy ail brawf gwaed PSA, ddweud fod fy sgôr wedi codi a'i fod yn fy atgyfeirio i Ysbyty Gwynedd. Ers hynny, dw i'n deall pa mor bwysig ydy'r prawf PSA.
Pan ddwedodd Jenny a Martin fod y coleg yn mynd i roi’r profion hyn ar waith, roeddwn i’n teimlo ei fod yn gam mawr ymlaen i’r coleg ac i'r gweithlu gwrywaidd. Fedra i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig ydy hi ein bod ni'n cynnig hyn bob blwyddyn i ddynion dros 40 oed."
Pŵer profion yn y gweithle
Roedd David Maitland-Price a Neil Ackers o Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru, yn cynnal y profion ar y safle gyda chymorth gwirfoddol y nyrs, Sarah.
Mae Neil Ackers yn gwybod ei hun pa mor bwysig ydy profion yn y gweithle. Mae Neil yn gyn-swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ac fe gafodd ddiagnosis yn 51 oed trwy fenter debyg yn y gweithle, hefyd heb unrhyw symptomau. Mae'n barod iawn i chwalu'r myth peryglus bod canser y prostad yn salwch sy'n datblygu'n araf.
"Mae 'na bobl sy'n dweud, 'Os wyt ti'n mynd i gael canser, mi gei di ganser y prostad, oherwydd mae'n tyfu'n araf.' Dydy hynny ddim yn wir o gwbl," rhybuddiodd Neil. "Yn fy achos i, tyfodd mewn cwpl o wythnosau i dri chentimetr ciwbig a dechrau lledaenu. Mi es i o gam un i gam tri mewn ychydig wythnosau. Dywedodd y llawfeddyg wrtha i, 'Neil, petaen ni ddim wedi tynnu dy brostad allan pan wnaethon ni, fyddet ti ddim wedi cyrraedd cyfnod y Nadolig.'"
Mae Neil yn llawn canmoliaeth am ddull rhagweithiol y coleg o ymdrin â lles staff, gan bwysleisio bod ymyrraeth gynnar yn hollbwysig.
"Peidiwch byth â thanbrisio pa mor bwysig ydy hyn. Os bydd un person yn unig yn cael canlyniad coch ac yn canfod bod ganddyn nhw ganser y prostad, rydych chi wedi achub bywyd y person hwnnw. Mi fyddwch chi'n sicrhau ymyrraeth gynnar cyn i'r symptomau gyrraedd, sy'n digwydd yn aml pan fydd hi'n rhy hwyr. Mae'r staff yn gwerthfawrogi'r ffaith bod eu cyflogwr yn gofalu amdanyn nhw."
Cyngor a chefnogaeth
Os ydych chi neu rywun annwyl i chi wedi cael eich effeithio gan ganser y prostad, neu os hoffech ddysgu rhagor am drefnu digwyddiad profi, cysylltwch â thîm ymroddedig Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru:
David Maitland-Price: 07948247111 / dmaitland131@aol.com