Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pweru'r dyfodol gwyrdd: Coleg Llandrillo ac RWE yn Dathlu Llwyddiant Prentisiaid

Daeth teulu, ffrindiau, staff y coleg a chydweithwyr o RWE ynghyd i ddathlu llwyddiant saith ar hugain o brentisiaid sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd ym maes Tyrbinau Gwynt Alltraeth.

Yn ddiweddar, dathlodd Coleg Llandrillo ac RWE bedair blynedd ar ddeg o gydweithio i hyfforddi Technegwyr Tyrbinau Gwynt Alltraeth mewn seremoni wobrwyo i garfan 2024-26.

Roedd y digwyddiad yn nodi diwedd dwy flynedd gyntaf y prentisiaid o hyfforddiant llawn amser yn y Ganolfan Hyfforddi arbenigol ar gampws y Rhyl.

Teithiodd teulu, ffrindiau, staff y coleg a chydweithwyr o gwmni RWE i'r Rhyl i ddathlu a chydnabod llwyddiannau’r prentisiaid. Daeth un ffrind yr holl ffordd o Toulouse, Ffrainc, i fod yn rhan o'r achlysur. Yn ystod eu dwy flynedd yn y coleg mae’r holl brentisiaid wedi magu hyder ac wedi datblygu lefel uchel o sgiliau, gan ddysgu gan y tiwtoriaid a chael cefnogaeth y prentisiaid eraill.

“Fel cyfnod o ddatblygiad faswn i'n disgrifio'r ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Jessica Wall, a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn yn y digwyddiad. “Mae byw oddi cartref, y gefnogaeth gan y coleg a gwthio fy hun mewn pwnc hollol newydd wedi teimlo fel cyfnod aruthrol o dwf,” ychwanegodd.

Wedi dwy flynedd o hyfforddiant cynhwysfawr yng Ngholeg Llandrillo mae'r prentisiaid wedi meithrin y sgiliau a'r ddisgyblaeth sydd eu hangen arnynt i ddechrau gwasanaethu tyrbinau gwynt alltraeth yn nhrydedd flwyddyn eu rhaglen. Yn ogystal, mae'r hyfforddiant yn helpu i ddiwallu'r galw am weithwyr sydd â sgiliau gwyrdd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

“Mi fydda i'n cwblhau fy mlwyddyn mewn diwydiant yn Humber Gateway,” ychwanegodd Jessica. “Dw i'n edrych ymlaen at fynd yno a dod i adnabod y tîm.”

O'r chwith i'r dde, Luke Skeffington, Jessica Wall, Prentis y Flwyddyn a Paul Flanagan

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo wrth y myfyrwyr: “Bwriad heddiw ydi cydnabod ymrwymiad, gwaith caled a llwyddiant pob un ohonoch chi – saith ar hugain o brentisiaid RWE gwych. Dathlu eich llwyddiant ydi un o rannau gorau fy swydd fel pennaeth y coleg.”

Daeth Paul â’i araith i ben drwy bwysleisio gwerth partneriaethau, a phwysigrwydd rhaglen brentisiaeth RWE wrth ysbrydoli pobl ifanc o’r gymuned.

“Mae heddiw yn ymwneud â balchder,” meddai. “Balchder yn yr hyn rydych chi, y prentisiaid, wedi’i gyflawni; balchder yn y timau addysgu a chefnogi; balchder yn y bartneriaeth ag RWE; a balchder yn yr hyn y mae’r ganolfan hon yn ei gynrychioli: lleoliad yma yn y Rhyl sy'n cynnig hyfforddiant ynni o'r radd flaenaf.”

Dywedodd Phil Hughes, Darlithydd ac Arweinydd Prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt: “Mae’n wych gweld y prentisiaid yn dathlu eu hamser yn y coleg mewn ffordd mor bositif. Mae eu diolch a'u gwerthfawrogiad yn gwneud y swydd yn werth chweil.”

Ychwanegodd Paul Flanagan: “Mae’r rhaglen hon yn fodel o lwyddiant. Daw'r prentisiaid yma o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i weithio gyda'i gilydd mewn tîm, ac mae'r canlyniadau'n gwbl amlwg.

“Fis Mawrth rydyn ni hefyd wedi lansio cwrs newydd a noddir gan RWE-Nordex lle mae wyth o fyfyrwyr yn datblygu'r un wybodaeth a sgiliau â'r Prentisiaid RWE. Mae hyn yn cryfhau ein partneriaeth ag RWE ymhellach, nid yn unig i'r dysgwyr ond hefyd i’n cymunedau.”

Dywedodd Luke Skeffington, Rheolwr Prentisiaethau RWE: “Mae prentisiaeth o'r radd flaenaf yn cael ei chynnig yma yn y Rhyl, ac mae hyn o fantais i'r cwmni a’r gymuned ehangach.

“Mae'r rhaglen Brentisiaeth yn meithrin sgiliau proffesiynol yn ogystal â chymwysterau academaidd ac mae wedi datblygu tîm o dechnegwyr RWE sy'n gweithio ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Roedd agosatrwydd y tîm yn amlwg iawn yn y dathliad hwn.”

Mae'r diwylliant tîm sydd wedi datblygu yn yr adran Beirianneg yn y Rhyl wedi arwain hefyd at nifer o ddysgwyr a phrentisiaid yn rhoi cynnig ar gystadlaethau Sgiliau Cymru a WorldSkillsUK.

Dywedodd Paul Flanagan: “Mae Madeleine Warburton yn brentis ar ei thrydedd flwyddyn gydag RWE a bellach yn gweithio ar Fferm Wynt Sofia yn Grimsby. Ym mis Medi, bydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ar lwyfan y byd yng nghystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai. Camp a hanner sy'n brawf o safon ei hyfforddiant a'i hawydd cryf i lwyddo.”

Os hoffech chi ennill cyflog wrth ddysgu, ewch i'n gwefan i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/apprenticeships