Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn sicrhau eu lle yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026
Mae 18 myfyrwyr a phrentisiaid o Busnes@LlandrilloMenai, Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor wedi llwyddo i ennill lle yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK 2026 yn mis Tachwedd!
Bydd o fyfyrwyr o Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Coleg Llandrillo, gyda Busnes@Llandrillo Menai phrentisiaid, yn teithio i leoliadau ledled de Cymru i gystadlu yn y rowndiau terfynol cenedlaethol rhwng 17 a 20 Tachwedd, gan brofi eu sgiliau yn erbyn myfyrwyr medrus eraill o ar draws y DU.
Y myfyrwyr sydd wedi'u dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yw:
Coleg MenaiCameron Webster – Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen
Elliott Jones – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Jake Brodie – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Lewis Ainscough – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Thomas Roberts – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Chloe Chant – Sgiliau Sylfaenol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
Dina Qadir – Sgiliau Sylfaenol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
Riley Fordom – Electroneg Ddiwydiannol
Oscar Davies – Datblygu Gwefannau
Coleg Meirion-Dwyfor
Daniel Young – Plymio
Coleg Llandrillo
Andrew (AJ) Bartholomew – Trwsio cyrff cerbydau modur
Kayleigh Blears - Trin Gwallt
McKenzie Goodwin-Cotterill – Ynni Adnewyddadwy
Cameron Walsh – Gweini mewn Bwyty
Kimberley (Kim) Protheroe – Gweini mewn Bwyty
Oskar Williams – Gweini mewn Bwyty
Busnes@LlandrilloMenai
Kristin Parry – Technegydd Cyfrifyddu
Samantha (Sam) Johnson – Technegydd Cyfrifyddu
Bydd mwy na 400 o gystadleuwyr yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn 47 o sgiliau gwahanol; mae'n ddathliad cenedlaethol o hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol o'r radd flaenaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau WorldSkills UK, Mark Smallman: “Mae ein cystadlaethau’n ail-greu brys, pwysau a safonau'r gweithle, gan herio cystadleuwyr i ddatrys problemau, meddwl yn feirniadol a pherfformio ar eu gorau.
“Mae’n galonogol gweld amrywiaeth o ddysgwyr yn cymryd rhan a chynnydd eto yn niferoedd y cystadleuwyr eleni, sy'n adlewyrchu cyrhaeddiad cynyddol rhagoriaeth sgiliau ledled y DU. Dyna pam mae sefydliadau’n croesawu cystadlaethau sgiliau fel rhan o’u harferion addysgu - maen nhw’n gallu gweld bod y profiad yn meithrin hyder, gwydnwch a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fod yn aelodau gwerthfawr o'r gweithlu.
Dymunwn y gorau i'n 18 ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y rowndiau terfynol ym mis Tachwedd!