Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Trefniadau cadarn' ar gyfer sicrhau ansawdd Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, yn ôl corff ansawdd annibynnol Prydain

Mae gan Grŵp Llandrillo Menai 'drefniadau cadarn' ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella profiad myfyrwyr' - yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Rheoli Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Roedd yr adolygiad yn cymeradwyo'r grŵp colegol am lwyddo mewn sawl maes, yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr a dysgu ar-lein ac o bell.

Cafwyd 3 cymeradwyaeth i gydnabod; y cymorth o ansawdd uchel y mae'r Grŵp yn ei ddarparu i ddysgwyr Addysg Uwch, y cyfleusterau dysgu ac addysgu cynhwysfawr, yn enwedig y defnydd o dechnoleg i ddarparu profiad dysgu cynhwysfawr i fyfyrwyr.

Dywedodd Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo, 'Mae canlyniad yr adolygiad hwn yn dangos ymrwymiad y Grŵp i ddarparu addysg uwch lleol o ansawdd uchel a chefnogi twf economaidd yn yr ardal. Mae hefyd yn dystiolaeth bellach o waith caled ac ymrwymiad ein staff i gefnogi pob dysgwr a sicrhau eu bod yn llwyddo. Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein cyflogwyr a'n cymunedau'.

Ychwanegodd, 'Hoffem ddiolch i'r QAA, y panel am y ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad ac i'r staff a'r dysgwyr a gymerodd ran yn yr adolygiad'.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i ehangu ei bortffolio o gyrsiau Addysg Uwch, yn annibynnol ac mewn partneriaeth gyda sefydliadau Addysg Uwch gan gynnwys Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfyn, Prifysgol Glyndŵr ac Edexcel. Yn ogystal â'r rhaglenni gradd anrhydedd a'r diplomau cenedlaethol uwch traddodiadol, mae'r coleg wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu a hyrwyddo Graddau Sylfaen a chyrsiau galwedigaethol arloesol ac unigryw.

Mae'r Ganolfan Brifysgol gwerth £4.5 miliwn ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac sy'n ganolfan ar gyfer bron i 1,000 o ddysgwyr, yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu wedi eu teilwra i fyfyrwyr Addysg Uwch mewn un canolfan bwrpasol, yn hytrach nag mewn lleoliadau gwahanol ar draws y campysau.

I gael rhagor o wybodaeth am raddau neu gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk/graddau

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk