Coleg Menai yn croesawu Fflam Tîm Cymru i ddathlu talent a sgiliau'r genhedlaeth nesaf
Roedd Coleg Menai yn falch o groesawu Fflam Tîm Cymru, gan ddathlu talent y dysgwyr a fydd yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK mewn lleoliadau amrywiol yn ne Cymru fis Tachwedd.
Croesawodd Coleg Menai Fflam Tîm Cymru i Langefni'r, gan ymuno â sefydliadau ledled Cymru i gydnabod llwyddiannau, uchelgais ac ymroddiad y dysgwyr, y prentisiaid a’r bobl ifanc sy’n cynrychioli Tîm Cymru.
Mae'r Fflam yn teithio ar draws Cymru cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru rhwng 16-20 Tachwedd. Mae'r daith yn tynnu sylw at y bobl, y partneriaethau a'r cyfleoedd sy'n helpu i ddatblygu sgiliau safon uchel, gan ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ystyried addysg alwedigaethol, prentisiaethau a chystadlaethau sgiliau.
Roedd cystadleuwyr rownd terfynol Wordskills UK y Grŵp yn bresennol, ynghyd ag aelodau o garfan Wordskills UK Shanghai. Dangosodd y cystadleuwyr eu sgiliau trwy gynnal arddangosiadau.
Roedd y ffagl yn ganolbwynt trawiadol wrth i gannoedd o ddysgwyr, prentisiaid, cyflogwyr, tiwtoriaid, staff a phartneriaid cymunedol ymgasglu ar goridorau’r campws i gymeradwyo ei thaith drwy’r coleg.
Dan arweiniad Llywodraeth Cymru a phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae Taith y Fflam yn helpu i ddod â stori WorldSkills i gymunedau ledled Cymru, gan dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae cystadlaethau sgiliau yn ei chael ar hyder, dilyniant gyrfa a chyfleoedd yn y dyfodol.
Eleni, mae deunaw o ddysgwyr a phrentisiaid o Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, gan arddangos cryfder talent lleol a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael trwy gystadlaethau sgiliau, prentisiaethau a dysgu galwedigaethol.
Drwy gydol ei thaith, bydd y Fflam yn ymweld â cholegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau partner ledled Cymru, gan ddathlu llwyddiant lleol a sbarduno cyffro cyn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ym mis Tachwedd.
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Mae cymuned y Coleg yn falch iawn o groesawu Fflam Tîm Cymru i Goleg Menai. Mae cystadlaethau WorldSkills yn arddangos y dalent alwedigaethol orau, ac mae gweld deunaw o'n dysgwyr a'n prentisiaid yn cyrraedd y Rownd Derfynol Genedlaethol yn dyst i'w hymroddiad, eu huchelgais, a'r hyfforddiant eithriadol a ddarperir ar draws Grŵp Llandrillo Menai. Mae'r brwdfrydedd ar y campws heddiw yn dangos sut mae cystadlaethau sgiliau yn ysbrydoli, ac rydyn ni’n dymuno'r gorau i'n holl gystadleuwyr wrth iddynt gynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol ym mis Tachwedd."
Dywedodd Chloe Chant, myfyrwraig ar gwrs Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chystadleuydd yn rowndiau terfynol WorldSkills UK: "Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn i gynrychioli Cymru. Dw i'n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd a chystadlu ag eraill. Os ydych chi'n ystyried cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn y coleg, ewch amdani. Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl na allwch chi ei wneud, ewch amdani.
I gael rhagor o wybodaeth am gystadlaethau sgiliau yng Nghymru a sut allwch chi gymryd rhan fel cystadleuydd, cyflogwr neu hyrwyddwr sgiliau, ewch i www.inspiringskills.gov.wales