Coleg Menai yn ffurfio partneriaeth â Rolls-Royce SMR i gynnig prentisiaethau yn Wylfa Newydd
Campws Coleg Menai yn Llangefni fydd y brif ganolfan hyfforddi i brentisiaid cyntaf y prosiect Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMR) yn Wylfa.
Ar hyn o bryd mae Rolls-Royce SMR yn recriwtio'i garfan gyntaf o brentisiaid i weithio ym Môn, gan ddynodi dechrau hwb economaidd enfawr i ogledd Cymru.
Bydd y deg prentis newydd yn gweithio ym maes diogelwch a rheoleiddio, gan ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg a ategir gan hyfforddiant mewnol a phrofiad go iawn yn y diwydiant. Gan fanteisio hefyd ar arbenigedd darlithwyr Coleg Menai a'r cyfleusterau rhagorol a geir yno, bydd y prentisiaid yn flaenllaw wrth drawsnewid y ffordd y mae prosiectau niwclear yn cael eu cyflawni drwy ddull 'adeiladu mewn ffatri' modiwlaidd.
Meddai Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai:
"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous wrth i'r twf economaidd a'r cyfleoedd am swyddi sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith mawr fel Wylfa ddechrau cael eu gwireddu. Yng Ngholeg Menai rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Rolls-Royce SMR a Great British Energy i hyfforddi pobl gogledd Cymru i fod yn rhan o weithlu niwclear y dyfodol"
Ychwanegodd: "Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf a staff arbenigol, rydyn ni mewn sefyllfa berffaith i sicrhau bod gweithwyr y dyfodol yn Wylfa yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf. Gobeithio bod hyn yn ddechrau ar gyfnod newydd o dwf economaidd a chyflogaeth dda yn ein cymunedau"
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am y Brentisiaeth mewn Diogelwch a Rheoleiddio.