Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

15 Prentis Newydd yn Dechrau eu Gyrfaoedd wrth i Goleg Meirion-Dwyfor Ehangu ei Ddarpariaeth ym maes Adeiladu

Mae llwybrau prentisiaeth allweddol ym maes adeiladu wedi dychwelyd i Goleg Meirion-Dwyfor gan nodi carreg filltir bwysig i gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith yn ne Gwynedd.

Am y tro cyntaf ers dros dair blynedd, mae prentisiaethau ym maes Plymio, Plastro a Gwaith Brics yn cael eu cynnig ar gampws y coleg yn Nolgellau. Golyga hyn fod cyfleoedd ar gael i ddysgwyr lleol ennill profiad gwerthfawr mewn diwydiant tra hefyd yn datblygu'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector adeiladu.

Ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri mae'r adran hefyd wedi lansio Prentisiaeth ym maes Cynnal a Chadw Adeiladau. Mae dau brentis wedi cofrestru ar y rhaglen ac yn cael profiadau ymarferol eang ac amrywiol drwy weithio i'r Parc a thrwy fynd ar leoliad gwaith at isgontractwyr lleol.

Mae'r prentisiaethau newydd yn ymateb uniongyrchol i'r galw cynyddol gan bobl ifanc a chyflogwyr yn ne Gwynedd ac maent yn arwydd o ymrwymiad y coleg i gynnig llwybrau hwylus i bobl ifanc leol i yrfaoedd da.

Yn ogystal ag ailgyflwyno'r prentisiaethau a'r bartneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri, mae Gwaith Saer ac Asiedydd yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddarpariaeth prentisiaethau'r coleg, gan gynnal y traddodiad cryf o gefnogi dysgwyr a chyflogwyr lleol.

Dywedodd Iestyn Worth, Rheolwr y Maes Rhaglen Adeiladu a Pheirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: ⁠⁠

"Dw i'n hynod falch o'r staff a'r penderfyniad a ddangoswyd ganddynt i ddod â'r prentisiaethau hyn yn ôl i Ddolgellau a de Gwynedd. Mae mwy i hyn na dim ond cynnig cyrsiau; mae'n golygu ein bod ni'n creu cyfleoedd i bobl ifanc, yn cefnogi cyflogwyr lleol ac yn cryfhau'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.

"Mae'r ffaith ein bod ni unwaith eto'n cynnig prentisiaethau mewn Plymio, Plastro a Gwaith Brics yn brawf o'n hymrwymiad i ymateb i anghenion lleol. Rydym yn falch iawn o groesawu'r 15 prentis newydd ac yn edrych ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw feithrin sgiliau a phrofiad a magu'r hyder sydd ei angen arnyn nhw i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu."

Ychwanegodd Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol:⁠⁠

"Dw i wrth fy modd fod y cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith gwerthfawr hyn unwaith eto'n cael eu cynnig i bobl ifanc yn ein cymunedau drwy Goleg Meirion-Dwyfor. Dw i'n credu'n gryf mewn adfer ac ehangu ein darpariaeth brentisiaethau ac mae'n wych gweld bod y cyfleoedd hyn ar gael unwaith eto.

"Mae prentisiaethau'n gosod sylfeini cryf ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus, gan roi cyfle i'r dysgwyr ennill cyflog, dysgu, a chael profiad go iawn mewn diwydiant. Dw i'n edrych ymlaen at weld y prentisiaid yn ffynnu, yn cyflawni eu huchelgais ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r diwydiannau a'r cymunedau y byddan nhw'n eu gwasanaethu."

Mae datblygiad y prentisiaethau adeiladu’n tanlinellu ymrwymiad parhaus Coleg Meirion-Dwyfor i gefnogi datblygiad sgiliau, diwallu'r angen lleol am weithwyr a chreu llwybrau clir i gyflogaeth i ddysgwyr yn ne Gwynedd.