Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pasio Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Cymru - Beth mae hyn yn ei Olygu i Fusnesau Lleol

Mae hygyrchedd yng Nghymru wedi cymryd cam mawr ymlaen wrth i'r Senedd basio Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Cymru.

Mae'r ddeddf newydd yn sefydlu fframwaith i hyrwyddo a chefnogi defnyddio BSL yng Nghymru. Bydd Gweinidogion yng Nghymru yn datblygu Strategaeth BSL Genedlaethol, a gefnogir gan gyngor a chanllawiau arbenigol, a fydd yn dylanwadu ar sut mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau ehangach yn gwneud eu gwasanaethau'n fwy hygyrch.

Felly mae'n amser da i fusnesau lleol ddechrau meddwl: ydych chi'n barod i addasu?

Yn ôl Bethan Ronan, Tiwtor Byddardod yn y coleg, mae hon yn foment bwysig a chyffrous:

"Mae pasio Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Cymru yn rhywbeth y gall ein cymuned fod yn falch iawn ohono. Mae'n gam mawr ymlaen tuag at sicrhau'r tegwch rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu amdano, ac rydw i'n hyderus y bydd yn trawsnewid bywydau pobl Fyddar yng Nghymru.

"Ond, rŵan mae'r gwaith caled yn dechrau. Rhaid symud o adnabod i weithredu drwy ddarparu addysg a hyfforddiant i helpu sefydliadau i ddeall profiadau bywyd ac anghenion cyfathrebu’r gymuned Fyddar."

Pam ei fod yn bwysig i'ch busnes ⁠⁠ ⁠⁠ ⁠⁠

Gall gwneud newidiadau bychan, fel dysgu hanfodion BSL, wneud gwahaniaeth mawr i gwsmeriaid a chydweithwyr Byddar. Nid cydymffurfio a bodloni'r gofynion yn unig sy'n bwysig; mae'n golygu creu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb sy'n dod drwy eich drws.

Dechrau hyfforddiant BSL ⁠⁠ ⁠⁠

I helpu busnesau a'r gymuned leol i gymryd y cam nesaf, mae'r coleg yn cynnig tair awr o sesiwn Ymwybyddiaeth o BSL i roi sgiliau ymarferol i chi eu defnyddio.

Bydd yn sesiwn yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i BSL a'r gymuned Fyddar

  • Arwyddion pwysig i'ch helpu i ryngweithio â chwsmeriaid ac aelodau'r tîm

  • Diwylliant y Byddar a sut i gyfathrebu gyda pharch

  • Gweithgareddau ymarferol i fagu hyder

Y manteision ⁠⁠

⁠Gall cymryd rhan eich helpu chi:

  • I gyfathrebu'n fwy effeithiol â chwsmeriaid a chydweithwyr Byddar

  • I wneud eich sefydliad yn fwy hygyrch a chynhwysol

  • I feithrin parch yn y gweithle a diwylliant mwy cydymdeimladol

Cost y sesiwn yw £75, ac mae'n bosibl hefyd creu sesiwn bwrpasol i fodloni gofynion eich sefydliad.

I gael gwybod rhagor neu i archebu lle, cysylltwch ag Abi Woodyear a.woodyear@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 546666 est. 1726

Wrth i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym, dyma'r amser perffaith i weithredu. Cofrestrwch i ddysgu rhywbeth newydd, cefnogi eich cymuned, a gwneud eich busnes yn fwy cynhwysol i bawb.