Myfyrwyr Peirianneg o Goleg Menai yn datrys problem beirianyddol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Gan weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae tri myfyriwr o’r adran Beirianneg yng Ngholeg Menai wedi dylunio a chreu addaswr golau LED i helpu i gadw cerbydau’r Gwasanaeth yn barod ar gyfer galwadau brys.
Roedd gan y Gwasanaeth broblem oherwydd nad oedd y clwstwr golau oedd ei angen arnynt i bweru'r goleuadau glas ar eu cerbydau'n cael ei gynhyrchu mwyach.
Cysylltodd y Gwasanaeth â Choleg Menai i weld a allai'r adran Beirianneg eu helpu i ddatrys y broblem drwy ddylunio addaswr 3D ar gyfer y goleuadau a’i argraffu, fel y gallent ddefnyddio bylbiau LED mwy modern ac sy'n haws cael gafael arnynt.
Drwy ddod â her beirianyddol o’r byd go iawn i'r ystafell ddosbarth, roedd y cydweithio'n gyfle cyffrous i'r peirianwyr ifanc dan hyfforddiant.
O dan yr un pwysau ag y byddent wrth weithio yn y diwydiant, aeth y myfyrwyr Lefel 3 mewn Peirianneg ar gampws Llangefni ati i weithio’n syth.
Aeth Aiden Bedford ac Oliver Haigh, y ddau yn un ar bymtheg oed, ac Osian Owen, sy’n ddwy ar bymtheg oed, ati i sganio'r clwstwr lampau crwn ac yna i ddylunio prototeip o'r addaswr gan ddefnyddio Meddalwedd Autodesk Fusion.
Ar ôl i'r prototeip cychwynnol gael ei argraffu ar beiriant argraffu 3D Coleg Menai, daeth y Gwasanaeth Tân ac Achub ag un o’u cerbydau i'r campws er mwyn i'r myfyrwyr allu profi eu dyluniad.
Ychydig o addasiadau'n ddiweddarach, llwyddodd y myfyrwyr i greu addaswr oedd yn gweithio’n berffaith – gan ennill sgiliau datrys problemau gwerthfawr a datrys problem y Gwasanaeth.
Dywedodd Bryn Jones, Darlithydd yn yr adran Beirianneg ac Arweinydd Rhaglen yng Ngholeg Menai: “Mae ein myfyrwyr wedi dangos ymrwymiad go iawn i ddatblygu ateb sy'n gweithio ac sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol a'r gymuned ehangach. Mae prosiectau allanol fel ein cydweithrediad â'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhoi cyfleoedd unigryw i'n myfyrwyr ddangos eu sgiliau ac yn ein helpu gyda'r nod o ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr rhagorol.”
Dywedodd Stuart Austin, Goruchwyliwr Technegol yn Adran Fflyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda myfyrwyr o’r adran Beirianneg yng Ngholeg Menai, a helpu i ddatblygu a grymuso’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr i ddod o hyd i atebion arloesol i senarios neu broblemau go iawn. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn wedi bod o fudd i ni fel Gwasanaeth hefyd, gan ddiogelu ein cymunedau drwy estyn allan a chreu cysylltiadau.”
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau peirianneg i bobl ifanc ac oedolion o Lefel 1 i Addysg Uwch a phrentisiaethau. I gael gwybod rhagor ewch i: www.gllm.ac.uk/cy/courses/engineering-and-power-technology