Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

EIN GRŴP: CYFARFOD Y STAFF

Croeso i ‘Ein Grŵp’, yr eitem newydd a fydd yn cyflwyno proffil staff newydd Grŵp Llandrillo Menai.

Bydd ‘Ein Grŵp’ yn rhoi sylw i aelod staff newydd bob mis: cewch gyfle i adnabod ein Tîm ychydig yn well, clywed am eu swydd a'r profiadau gwych maen nhw wedi'u cael gyda'r Grŵp.


Enw

Hannah Medi Hughes

Teitl y Swydd

Swyddog Ymgysylltu Rygbi

Beth yw hanfodion eich swydd?

Fy swydd yw datblygu, cynyddu a gwella iechyd a lles myfyrwyr ar draws y Grŵp, wrth sicrhau fod gweithgareddau corfforol yn gynhwysol ymhob rhan ac ar gyfer pob oedran yn ein cymunedau.

Mae dyletswyddau fy swydd yn cynnwys hybu ffordd o fyw egnïol drwy ddarparu rhaglen gynhwysfawr a chynhwysol, sy'n cefnogi dysgwyr i ddod yn wirfoddolwyr a hyfforddwyr sy'n darparu gweithgareddau chwaraeon, corfforol a lles ac ymgysylltu â grwpiau o ddysgwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Fy nod yw 'ysbrydoli dysgwyr a staff i ddewis a chynnal ffordd o fyw iach'. Trwy gynyddu a gwella ymgysylltu a chyfranogiad medrwn hybu gwerthoedd craidd Strategaeth Lles y Grŵp, yn ogystal â rhoi cyfle i wella cydlyniad iechyd a lles, teuluoedd a chymunedau.

Rwy'n goruchwylio'r rhaglen 'Llysgenhadon Actif', a ddyluniwyd i feithrin arweinwyr y dyfodol ar draws y Grŵp, trwy hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Bwriad y rhaglen yw denu ystod eang o fyfyrwyr ag amrywiaeth o sgiliau a gallu i fod yn rhaglen sy'n gynhwysol ac amrywiol ac yn cefnogi cyfleoedd i fyfyrwyr. Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen yma.

Manteisiaf ar bob cyfle i hybu pwysigrwydd cadw'n heini ac iach er mwyn sicrhau bod y corff a'r meddwl yn iach. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda grwpiau tiwtorial, cysylltu Llysgenhadon ag ysgolion cynradd neu glybiau cymunedol, diweddaru a chreu cynnwys newydd ar gyfer yr Hwb Lles a rhannu gwybodaeth i ddysgwyr ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol - gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda'r Fframwaith Lles.

Beth yw rhai o'ch hobïau a’ch diddordebau?

Treulio amser â ffrindiau ac aelodau'r teulu

Cerdded a mynydda

Chwaraeon - Rygbi / Jiwdo / 'CrossFit' / Codi pwysau

Gwirfoddoli mewn digwyddiadau chwaraeon

Beth wyt ti'n ei hoffi am weithio i Grŵp Llandrillo Menai?

Fod pob diwrnod yn wahanol!

Dwi wrth fy modd gyda fy swydd a dwi'n cael gweithio gyda staff rhagorol a Llysgenhadon Actif ar draws yr holl safleoedd sy'n awyddus i helpu eraill a gwneud gwahaniaeth.

Sut fedrwn ni ganfod rhagor am dy waith? (gwe-dudalen, cyfrif cyfryngau cymdeithasol perthnasol ac ati)

Instagram @gllmrygbi @GllmLles

Trydar @gllmrygbi @gllmlles

You Tube YouTube

Gwefan GLlM: gllm.ac.uk/student-life/active-ambassador

Hwb Lles Hwb Lles GLlM

Cofiwch edrych eto fis nesaf i ddarllen rhifyn diweddaraf 'Ein Grŵp'.