O Lywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Menai i Ymchwilydd PhD
Ers iddi adael Coleg Menai bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae Connie Pike, cyn-Lywydd Undeb y Myfyrwyr, yn meddwl yn ôl at yr eiliadau o “hyder academaidd” ac o “weledigaeth” a daniodd ei thaith o lwyddiant Lefel A i ymchwil arloesol mewn Cyfiawnder Troseddol.
Gosod sylfeini rhagoriaeth
Astudiodd Connie gyrsiau Safon Uwch mewn Seicoleg, Saesneg - Iaith a Llenyddiaeth, Mathemateg, a Chemeg, gan ennill canlyniadau trawiadol; A*ABC.
Cafodd ei hethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn ei blwyddyn olaf, ond cyflwynodd y coleg lawer o gerrig milltir eraill i Connie hefyd. Mynychodd ysgol haf Ymddiriedolaeth Sutton ym Mhrifysgol Caergrawnt, a sefyll arholiad HSK Mandarin Lefel 1 trwy Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor.
"Dw i'n edrych yn ôl gyda gwên ar y cyfleoedd a ges i yn ystod fy nghyfnod yng Ngholeg Menai - mi gyfrannodd pob un at fagu fy hyder academaidd," myfyria Connie.
O Lerpwl i Glasgow
Ar ôl gadael Coleg Menai, aeth Connie ymlaen i astudio cwrs gradd BSc mewn Seicoleg Fforensig a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU), gan raddio gyda Thystysgrif Dosbarth Cyntaf. Yna, aeth ymlaen i astudio am radd MA mewn Cyfiawnder Troseddol yn LJMU, a derbyniodd Dystysgrif Rhagoriaeth amdano.
Mae Connie bellach ym mhedwaredd flwyddyn ei PhD mewn Cyfiawnder Troseddol yn LJMU, ar ôl derbyn ysgoloriaeth PhD yr Is-Ganghellor.
Mae ei bywyd proffesiynol wedi bod yr un mor ddylanwadol. Tra roedd hi'n astudio, roedd Connie’n gweithio gyda Chanolfan Whitechapel, elusen i helpu'r digartref, yn Lerpwl, ac yn gwasanaethu fel Cydlynydd Adferiad Cyfiawnder Troseddol ar gyfer y Gwasanaeth Prawf ym Manceinion. Yn 2022, aeth ei hymchwil â hi i Glasgow, lle mae hi ar hyn o bryd yn ymchwilio i wasanaethau adsefydlu preswyl i deuluoedd sy'n brwydro yn erbyn bod yn gaeth i sylweddau.
Atgofion o Goleg Menai
Er gwaethaf ei llwyddiant, mae yna adegau i'i chyfnod yng Ngholeg Menai sy'n sefyll allan i Connie. Mae hi'n cofio'r eiliad pan ddechreuodd Mecaneg wneud synnwyr rhyw amser cinio gyda chefnogaeth ei hathrawes Mathemateg, a'r straeon a ddaliodd ei sylw yn y gwersi Seicoleg.
"Ro'n i'n teimlo bod fy athrawon yn gefnogol, yn ddymunol, ac yn realistig," meddai hi. "Roedden nhw'n ddylanwadol iawn yn y cyfnod hwnnw o fy mywyd, a dw i'n teimlo'n ffodus iawn fy mod i wedi cael fy addysgu ganddyn nhw." O eistedd yn ei dosbarth Saesneg gyda siocled poeth ar brynhawn Gwener i sesiynau mapiau meddwl yn y llyfrgell - mae Connie yn gweld Coleg Menai fel tarddiad ei gyrfa academaidd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau eich stori eich hun gyda ni? I ddarganfod pa mor bell y gallai un o gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai fynd â chi, ewch i'n gwefan: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...