Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr yn Graddio o'r Cwrs TAR ar ôl Cychwyn ei Thaith ar Gwrs Lefel 2

Sut y llwyddodd Jade i gael gyrfa newydd a darganfod ei diddordeb mewn technoleg yng Ngholeg Llandrillo. ⁠⁠⁠⁠

Mae'r seremoni raddio yn garreg filltir bwysig i bawb, ond fe wnaeth cwblhau'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yng Ngholeg Llandrillo yn 36 oed drawsnewid bywyd Jade Rose.

Ei nain wnaeth ei hannog i ddychwelyd i addysg a bellach mae hi wedi graddio, wedi canfod diddordeb mewn technoleg, ac wedi dechrau ar yrfa newydd sbon fel darlithydd.

Darganfod y llwybr cywir ⁠⁠ ⁠⁠

Ar ôl blynyddoedd o fod adref yn magu plant, roedd Jade yn gwybod bod angen newid arni. Anogodd ei nain hi i edrych ar beth oedd yn bosibl, a gwnaeth gais i ddilyn cwrs mewn marchnata busnes. Pan gafodd y cwrs ei ganslo, cafodd ei chynghori i wneud cwrs Lefel 2 i Ymarferwyr Technoleg Gwybodaeth ac fe dalodd hynny ar ei ganfed iddi.

"Ro'n i'n meddwl bod popeth yn digwydd am reswm, felly mi ddaliais i ati. Dim ond wedyn wnes i sylweddoli 'mod i'n gallu gwneud cyrsiau Lefel 3, Lefel 4 a'r holl ffordd i Lefel 6 i gael gradd yn y coleg."

Roedd aros yn lleol yn hanfodol i Jade. Fel mam sengl i ddau o blant, roedd y ffaith fod campws Coleg Llandrillo mor agos yn golygu ei bod yn gallu astudio heb orfod symud na gwneud trefniadau gofal plant.

"Fel mam sengl mi weithiodd popeth i'r dim gan fy mod i'n byw mor agos," eglurodd. "Doedd dim rhaid i mi boeni am ofal plant am fod y cwrs yn cael ei gynnal yn ystod oriau ysgol."

Ar ôl sylweddoli bod ganddi botensial, cafodd Jade help gan ei thiwtoriaid i symud ymlaen ynghynt gan neidio dros Lefel 3 yn syth i gymwysterau lefel uwch. Yn y pen draw enillodd radd ac yna'r cymhwyster TAR.

O ddysgwr i arweinydd ⁠⁠ ⁠⁠

Dydi symud o fod yn fyfyriwr tu ôl i ddesg i sefyll o flaen dosbarth ddim yn hawdd. Mae Jade yn diolch i rwydwaith gefnogol yr adran yn y coleg am ei helpu i addasu.

Yn ôl Jade, "Mae mynd o fod yn fyfyriwr i fod yn ddarlithydd yn newid mawr. Mi ges i fentor gwych. Ro'n i'n eistedd gyda hi ar ddydd Mawrth ac yn sylwi sut roedd hi'n rheoli'r dosbarth, gan ddysgu bod gwahaniaeth rhwng bod yn fyfyriwr sy'n ffrind i bawb a bod yno i arwain ac addysgu."

Erbyn hyn mae ei chefndir fel cyn-fyfyriwr o fantais fawr iddi yn y dosbarth. Ar ôl bod yn fyfyriwr ei hun, gall gydymdeimlo â'r myfyrwyr ac mae ei phrofiadau'n berthnasol.

Cael gwared ar rwystrau i ferched ym maes Technoleg ⁠⁠ ⁠⁠

Yn draddodiadol, mae cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth wedi denu mwy o ddynion na merched, ond yn ôl Jade roedd yna gydbwysedd da yn adran gyfrifiadura'r coleg ac roedd pawb yn groesawgar iawn.

"Mae 'na gryn dipyn o ferched cryf yn yr adran TG, ac mae'n dda gweld hynny," meddai. "Mae pawb yn cael yr un cyfleoedd ac rydyn ni i gyd yn cyd-dynnu'n dda."

Pan ofynnwyd iddi ba neges fyddai hi'n ei rhoi i ferched ifanc lleol sy'n ystyried gyrfa ym maes technoleg, roedd ateb Jade yn glir:

"Y peth pwysicaf un ydi bod angen i ferched sylweddoli bod lle iddyn nhw yn y byd technoleg. Ydi, mae o'n faes gwrywaidd iawn, ond hefyd yn hynod groesawgar."

Bod yn fodel rôl i'r genhedlaeth nesaf ⁠⁠ ⁠⁠ ⁠⁠ ⁠⁠

Roedd dechrau eto fel mam sengl 36 oed yn gam mawr, ond gobaith Jade yw y bydd ei stori'n ysgogi eraill sy'n teimlo ei bod yn rhy hwyr i newid cyfeiriad neu fentro i addysg uwch. Yn anad dim, mae hi am fod yn esiampl i'w phlant ei hun.

"Dw i am i bobl edrych ar fy hanes a meddwl: hyd yn oed os ydych chi wedi bod drwyddi hi, mi allwch chi'n dal lwyddo yn y pen draw. Os ydi hynny'n wir am fam sengl 36 oed, mae'n wir am bawb. Mae gen i fab a merch, a dw i am iddyn nhw edrych arna i a dweud, 'Ylwch be mae Mam wedi'i gyflawni.' Gobeithio 'mod i wedi bod yn esiampl dda iddyn nhw."

Os wyt ti'n awyddus i uwchsgilio neu newid dy yrfa, dydy hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau dy stori efo ni ym mis Medi. Edrycha ar ein gwefan i weld y dewis eang o gyrsiau i oedolion sy'n dychwelyd i fyd addysg: https://www.gllm.ac.uk/course-...

Mae'r cyfweliad llawn gyda Jade i'w weld ar dudalen Facebook Coleg Llandrillo: https://www.facebook.com/reel/... / https://www.facebook.com/reel/...