O Fyfyriwr i Ddarlithydd Coedwigaeth
Mae'r addysgu'n digwydd mewn mwy nag un lleoliad ar gampws Glynllifon, Grŵp Llandrillo Menai. Yn ogystal â gwerslyfrau, mae'n ymwneud â phrofiad ymarferol, cysylltiad â'r diwydiant, a brwdfrydedd dros yr awyr agored. Ac mae'r darlithydd Coedwigaeth Finlay (Fin) Wilson yn ymgorffori'r ysbryd hwnnw.
Dechreuodd ei daith dysgu ar gampws Glynllifon yn wreiddiol fel myfyriwr Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad. Yn dilyn hynny ychwanegodd Fin at ei addysg mewn prifysgolion ac yn y diwydiant, a dychwelyd i'r man lle dechreuodd y cyfan i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o reolwyr tir.
Mae llwybr Fin yn enghraifft wych o ble y gall cwrs ar gampws Nglynllifon fynd â chi. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau cychwynnol yn y coleg, aeth ymlaen i addysg uwch, gan astudio ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Bangor.
Wedi iddo ennill cymwysterau ar y lefel uchaf, defnyddiodd Fin ei sgiliau yn y maes, gan dreulio bron i ddwy flynedd yn gweithio'n uniongyrchol yn y diwydiant rheoli tir. Ond roedd Glynllifon yn parhau i fod yn agos at ei galon.
Dywedodd Fin: "Mae Glynllifon wedi bod yn lle arbennig i mi erioed — mae'n fraint bod yn ôl yma."
Ailymunodd Fin â'r coleg ym mis Medi 2025, y tro hwn fel darlithydd, wrth ymgymryd â'i hyfforddiant athrawon TAR ar yr un pryd i fireinio ei sgiliau ymhellach yn yr ystafell ddosbarth ac allan yn yr awyr agored.
I Fin, dychwelyd i fyd addysg oedd y cam naturiol nesaf. Roedd yn cynnig y cyfuniad delfrydol o brofiad ymarferol yn y diwydiant a rhyngweithio personol.
"Cefais fy nenu at addysgu gan fy mod yn berson pobl ac yn angerddol am fy mhwnc. Mae cael y cyfle i ddysgu pobl am goedwigaeth a rheoli tir wedi rhoi’r gorau o’r ddau fyd i mi," ychwanegodd Fin.
Yr hyn sy'n gwneud addysg bellach (AB) yn sefyll allan i Fin ydy'r gymuned fywiog o staff ymroddedig a dysgwyr brwdfrydig sy'n rhannu nod cyffredin.
Eglurodd: "Y peth gorau am addysgu ar lefel AB ydy eich bod chi'n gweithio gyda staff a myfyrwyr o'r un anian sydd hefyd yn angerddol iawn am eu pynciau."
Dw i'n credu mai dyma sy'n gwneud y coleg yn lle arbennig, gan y gall gael effaith mor sylweddol ar fywydau pobl ifanc ac oedolion. Rydw i wedi mwynhau gwylio'r dysgwyr yn datblygu yn ystod y cwrs fel pobl, ac yn ennill sgiliau gwerthfawr a gwneud ffrindiau newydd."
I unrhyw un sy'n ystyried dechrau eu taith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor y mis Medi nesaf, mae Fin yn cynnig cyngor syml ac ymarferol:
"Manteisiwch ar bob cyfle. Manteisiwch i'r eithaf ar eich cyrsiau. Mae mis Medi i fis Fehefin yn teimlo fel amser hir, ond mi fydd yn hedfan."
Eisiau dilyn ôl troed Fin? Ewch draw i'n gwefan i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...