Myfyriwr Lefel 2 i Ddarlithydd: Taith arbennig Craig Roberts yng Ngholeg Menai
Mae'r cyn-fyfyriwr Cyfryngau, Craig Roberts wedi dychwelyd i gampws Coleg Menai yn Llangefni – nid fel dysgwr, ond fel Darlithydd yn y Cyfryngau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol.
Dechreuodd ddiddordeb Craig yn y cyfryngau ymhell cyn iddo gamu i'r ystafell ddosbarth, ac mae ganddo atgofion melys iawn o wylio ffilmiau a chwarae gemau fideo gyda'i dad yn ystod ei blentyndod. Pan ddaeth hi'n amser dewis pa lwybr i'w ddilyn tua'r dyfodol, roedd cofrestru ar y cwrs Cyfryngau Lefel 2 yng Ngholeg Menai yn teimlo'n naturiol.
"Pan o'n i'n iau, y peth o'n i'n ei fwynhau fwyaf am y cyfryngau oedd cael bod yn greadigol." meddai Craig. "O'n i'n cael defnyddio'r camerâu, gwneud ychydig o waith addasu ar Photoshop a mwynhau fy hun - dyna oedd bwysicaf i fi'r oed yna."
Meithrin Sgiliau a Hyder
Roedd y cwrs yn cynnig llawer mwy na dysgu gwybodaeth dechnegol yn unig i Craig; roedd yn brofiad personol trawsnewidiol. O dan arweiniad darlithwyr angerddol fel Robin Abbas a Richard Williams, sy'n dal i addysgu yn y coleg heddiw, datblygodd Craig y sgiliau a'r hunanhyder oedd eu hangen arno i fynd â'i angerdd i'r lefel nesaf.
"Petai'n rhaid i mi ddewis y peth gorau i mi ddysgu pan o'n i'n fyfyriwr, hyder fyddai hynny'n bendant," ychwanegodd Craig. "Fe wnes i fagu llawer iawn o hyder pan wnes i ymuno â'r cwrs. Fe wnes i ddysgu popeth dwi'n ei wybod gan fy nhiwtoriaid ac fe wnaethon nhw'n siŵr fy mod i wrth fy modd â phob munud."
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yng Ngholeg Menai, aeth Craig ymlaen i Brifysgol Bangor, lle enillodd radd mewn Ffilm a Theledu.
Camu i'r Ystafell Ddosbarth
Gwyddai Craig ei fod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r coleg a'i helpodd i ffynnu. Dychwelodd i Goleg Menai i weithio fel Cynorthwyydd Addysgu yn gyntaf. Ond, roedd yn benderfynol i symud ymlaen i ddarlithio, felly aeth ati i gwblhaodd ei gymhwyster TAR, mireinio ei grefft, ac yna aros am y cyfle iawn. Pan ddaeth swydd ddarlithio yn wag, talodd ei waith caled ar ei ganfed.
Erbyn heddiw, mae Craig yn ddarlithydd llawn amser ar gampws Llangefni ac yn addysgu mewn amgylchedd sydd wedi esblygu'n sylweddol ers ei ddyddiau yntau fel myfyriwr.
"Fe wnaethon ni greu ffilmiau anhygoel bryd hynny, ond heddiw, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n arwain y diwydiant, rydan ni mewn sefyllfa hyd yn oed mwy breintiedig," eglurodd Craig. "Mae ein myfyrwyr presennol yn cael y cyfle gorau posibl i'w paratoi ar gyfer y diwydiant."
Edrych i'r dyfodol
Wrth adfyfyrio ar ei daith, mae Craig yn gobeithio bod ei stori’n profi, gyda’r amgylchedd a’r gefnogaeth gywir, y gall unrhyw fyfyriwr adeiladu gyrfa werth chweil yn y diwydiannau creadigol.
"Petai rywun wedi dweud wrtha i pan o'n i'n gwneud y cwrs Lefel 2 y byddwn i'n dod yn ddarlithydd yma ryw ddydd, fyddwn i byth wedi credu'r peth," parhaodd Craig. "Felly pwy a ŵyr beth all ddigwydd? Os wyt ti'n unigolyn creadigol sy'n mwynhau ffilmiau a'r cyfryngau, dyma'r lle i ti. Tyrd i ymuno â ni.
Diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiannau creadigol?
Dysgwch sut y gall cyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym maes Cyfryngau Creadigol eich helpu chi i feithrin eich hyder, dysgu wrth ddefnyddio offer o safon y diwydiant, a lansio eich gyrfa. Ewch draw i'n gwefan i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael o fis Medi ymlaen: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/media-tv-and-film