Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Partneriaeth Gryfach rhwng Coleg Menai ac NRS yn Cynnig Sicrach Dyfodol i Weithwyr Niwclear

Ar ymweliad diweddar â champws Coleg Menai yn Llangefni, cyfarfu cynrychiolwyr o NRS (Nuclear Restoration Services) â'r staff a'r criw presennol o brentisiaid sy'n gweithio ar safleoedd y grŵp yng ngogledd Cymru. Bwriad yr ymweliad oedd cryfhau'r bartneriaeth bresennol rhwng Coleg Menai ac NRS, gan chwilio am gyfleoedd pellach i ddatblygu prentisiaethau a'r gweithlu yn y rhanbarth.

Meddai Eurfon Davies, Rheolwr y Maes Rhaglen Peirianneg yng Ngholeg Menai: "Roedd yn bleser gwrando ar John Vickerman a chydweithwyr o NRS a Grŵp Llandrillo Menai yn trafod sgiliau, datblygu’r gweithlu, a'r cyfleoedd fydd ar gael yn y dyfodol yn y sector niwclear ym Môn a gogledd Cymru."

Mewn cinio rhyngweithiol cafodd yr ymwelwyr gyfle hefyd i siarad â phrentisiaid presennol NRS.

"Roedd yn ddiddorol iawn clywed am eu profiadau a'u llwybrau gyrfa," ychwanegodd Eurfon.

Un o’r rhai a rannodd ei hanes oedd Gruffudd Lewis, Prentis gyda Gwaith Niwclear Cymru, a esboniodd pam y dewisodd ef ddilyn y llwybr hwn.

"Mae'n ffordd berffaith o ddatblygu gyrfa broffesiynol yn agos i fy nghartref yn Nhrawsfynydd," meddai Gruffudd. "Dw i wastad wedi mwynhau mathemateg, felly mae'r gwaith cyfrifo sy'n rhan o sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio â rheolau diogelwch a rheoli ffiseg iechyd y gwaith yn apelio. Dw i wrth fy modd yn cael y cyfrifoldeb."

Un o uchafbwyntiau Gruffudd hyd yma oedd cynrychioli NRS yn San Steffan eleni.

"Ro'n i'n un o'r ddau brentis a gafodd eu dewis i gynrychioli NRS yn Wythnos Niwclear San Steffan 2026," meddai. "Roedd cael siarad efo'r Aelodau Seneddol Liz Saville Roberts a Ben Lake am y gwaith datgomisiynu a'r agweddau diogelwch hollbwysig yn fraint fawr."

Pwysleisiodd Gruffudd hefyd fod y prentisiaethau hyn ddim yn ddibynnol ar oedran nac wedi'u cyfyngu i rai â chefndir mewn peirianneg, gan brofi nad ydi hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad.

"Chwaraeon ydi fy nghefndir i, ac mi gychwynnais i ar y llwybr yma'n 36 oed," esboniodd. "Rŵan 'mod i newydd gwblhau fy NVQ Lefel 2 ac wedi cael cynnig swydd barhaol fel Monitor Ffiseg Iechyd, dydw i ddim am aros yn fy unfan! Dw i'n edrych ymlaen at ddal ati efo fy addysg a symud ymlaen i swydd reoli."

Soniodd Tesni Mai Evans, sydd hefyd yn Brentis gyda Gwaith Niwclear Cymru, am sut mae'r llwybr prentisiaeth wedi rhoi hwb i'w gyrfa a'i helpu i feithrin cysylltiadau yn y diwydiant.

"Mae'r cyfleoedd i rwydweithio a gwneud cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant wedi bod o fantais aruthrol i mi," meddai Tesni. "Dw i wrth fy modd efo'r holl amrywiaeth. Un o'r uchafbwyntiau oedd mynd i gynhadledd ym Mryste, lle ges i gyfle i gymryd rhan mewn ymarferion adeiladu tîm a chysylltu â phrentisiaid eraill.

"Y nod ydi parhau i symud ymlaen yn y diwydiant, gweithio ar safleoedd amrywiol ac ennill y cymhwyster llawn."

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o weithio ochr yn ochr â NRS i ddatblygu, meithrin, ac ysgogi gweithwyr y dyfodol.

I orffen, dywedodd Eurfon Davies: "Diolch yn fawr iawn i bawb. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gryfhau ein partneriaeth ag NRS ac at gydweithio ymhellach i gynnig prentisiaethau a chyfleoedd gyrfa o safon uchel i bobl ifanc yng Ngwynedd a Môn."

Diddordeb mewn Newid Gyrfa? Os ydych chi'n meddwl y gallai prentisiaeth fod yn ddewis da i chi, ewch i'n gwefan i weld sut i ddechrau ar yrfa newydd: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/apprenticeships