Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sut yr helpodd dosbarth nos yng Ngholeg Llandrillo Gus i gyhoeddi ei nofel gyntaf

Rhoddodd y dosbarthiadau ysgrifennu creadigol ar gampws Coleg Llandrillo yn Abergele'r hwb angenrheidiol i Gus i orffen nofel roedd wedi bod yn gweithio arni ers tro byd.

"Dw i wedi dechrau ysgrifennu cymaint o lyfrau," meddai Gus. "Dw i wastad wedi ysgrifennu rhyw 'chydig, ond rhoddodd y cwrs hyder i mi fwrw iddi i wneud mwy," ychwanegodd. "Diolch i anogaeth fy nhiwtor, mi lwyddais i orffen y llyfr a mynd ati i'w gyhoeddi fy hun."

Hamddenol, cyfeillgar, croesawgar ac wedi'i drefnu'n dda yw rhai o'r geiriau mae Gus yn eu defnyddio i ddisgrifio'r cwrs. "Mae wedi bod yn wych cael cyfarfod â phobl eraill sydd â syniadau tebyg i mi," meddai. "Efallai eu bod nhw'n ysgrifennu am bynciau gwahanol ond mae'n braf rhannu syniadau ac edrych ar ffyrdd gwahanol o fynegi pethau."

I Gus roedd y cwrs hefyd yn ffordd dda o symbylu prosiectau ysgrifennu newydd.

"Mi ges i sgyrsiau gyda phobl a wnaeth ysgogi syniadau am lyfrau, dramâu a barddoniaeth. Mae wedi bod yn werthfawr tu hwnt, ac mi wnes i fwynhau gwrando ar waith pobl eraill hefyd."

Yn ogystal â rhoi ffydd i Gus yn ei allu ei hun, mae'r cwrs wedi ei helpu i feithrin sgiliau golygu pwysig. "Mae wedi fy helpu i fireinio fy ngwaith," meddai. "Dw i wedi cael cyngor da gan y tiwtor ac mae gallu rhannu syniadau gyda phobl eraill yn y dosbarth yn ddefnyddiol iawn."

Drwy'r dosbarth nos cafodd Gus gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu yn y coleg.

"Mi wnes i gyflwyno darn heb feddwl am eiliad y byddai dim yn dod o'r peth, ac ro'n i wrth fy modd pan wnes i ennill. Mi wnes i ennill taleb gwerth £50 ond llawn cystal oedd cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith a hwb i'm hyder."

Cyhoeddwyd nofel Gus, Broken Pictures ar Amazon fis Mehefin diwethaf ac mae eisoes yn gweithio ar ei brosiectau nesaf. "Dw i wedi dechrau sgwennu un neu ddau o bethau ac mae gen i lyfr arall dw i'n gobeithio ei orffen cyn pen ychydig fisoedd."

Da iawn ti, Gus a phob lwc gyda'r nofel nesaf.

Cewch ragor o wybodaeth am Gus ar ei wefan: https://ghwood.co.uk/

Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi pin ar bapur? P'un a yw eich bryd ar newid gyrfa, dilyn diddordeb newydd neu fod yn greadigol gyda phobl o'r un anian â chi, ewch i'n gwefan i weld ein harlwy amrywiol o gyrsiau rhan-amser i oedolion: https://www.gllm.ac.uk/cy/online-prospectus/part-time