Lansio Academi ac Ysgoloriaeth Bêl-droed Newydd i Ysgogi'r Genhedlaeth Nesaf
Mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn mae Coleg Llandrillo'n falch o gyhoeddi lansiad Academi ac Ysgoloriaeth Bêl-droed newydd.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio'n swyddogol mewn Diwrnod i'r Gymuned ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ar 9 Mai, ac mae'r broses gofrestru ar gyfer Medi 2026 eisoes wedi agor.
Mae'r Academi'n agored i fechgyn 16-19 oed, ni waeth â pha glybiau maen nhw wedi bod yn gysylltiedig yn y gorffennol, a bydd rhaglen benodol i ferched yn cael ei lansio yn 2027-28.
Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle unigryw i bêl-droedwyr dawnus gyfuno eu haddysg â hyfforddiant o'r radd flaenaf a phrofiad o chwarae mewn gemau cystadleuol. Bwriad y rhaglen yw cefnogi datblygiad chwaraewyr, ar y cae ac yn y coleg, gan gynnig llwybr clir i lefelau uchaf y gêm ac ennill cymwysterau academaidd cydnabyddedig yr un pryd.
Meddai Mike Wilde, Cyfarwyddwr Pêl-droed CPD Bae Colwyn, "Bydd yr Academi Bêl-droed yng Ngholeg Llandrillo yn cynnig pecyn cynhwysfawr sy'n cynnwys hyfforddiant arbenigol, sesiynau cryfder a chyflyru, dadansoddiad o berfformiadau, a defnydd o gyfleusterau tan gamp. Drwy'r bartneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, bydd y myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau uniongyrchol â sefydliad blaengar, gan ddod yn gyfarwydd â phêl-droed dynion a llwybrau go iawn i'r gamp."
Bydd y Diwrnod i'r Gymuned ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ar 9 Mai yn gyfle i ddarpar fyfyrwyr, rhieni, a phartneriaid lleol gwrdd â'r staff hyfforddi, gweld y cyfleusterau, a dysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy'r Academi a'r rhaglen ysgoloriaeth.
Meddai Samantha Mcilvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo, "Mae'r lansiad yn gam mawr ymlaen i bêl-droed, chwaraeon ac addysg yn yr ardal, gan adlewyrchu ymrwymiad i feithrin talentau lleol a chreu llwybrau realistig i'r gamp broffesiynol a lled-broffesiynol."
Meddai Amy Thomson, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: "Mae'r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Coleg Llandrillo a Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn yn creu cyfleoedd i chwaraewyr ifanc talentog drwy gyfuno addysg â phêl-droed elît."
Rydym ni'n derbyn ceisiadau rŵan ar gyfer Medi 2026.