Myfyrwyr Coleg Menai yn cwrdd ag AS lleol i ddweud eu dweud am ddyfodol Bangor
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o Goleg Menai gyfle i gwrdd â Claire Hughes, AS Llafur dros Fangor Aberconwy, i drafod eu syniadau ar gyfer dyfodol dinas Bangor.
Fel rhan o 'Bangor, Beth Nesaf', trefnwyd sesiwn i'r myfyrwyr gyda Claire ar gampws y coleg ym Mangor i rannu eu syniadau ar sut y gellid datblygu canol y ddinas ymhellach.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd yng nghanol dinas Bangor, gan gynnwys adeiladu ar syniadau presennol fel y farchnad fwyd dan do, tai ac adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Haf Bangor.
Gofynnodd Claire i'r dysgwyr ddychmygu eu hunain fel twristiaid yn ymweld â'r ddinas am y tro cyntaf a'r hyn yr hoffent ei weld yno.
Roedd rhai o'r syniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr wrth sgwrsio â Claire yn cynnwys mwy o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas, mwy o fwytai a siopau rhyngwladol, adloniant dan do i bobl ifanc ac atyniadau i ddenu twristiaid.
Dywedodd Maria, dysgwr Lefel 2 Teithio, Twristiaeth a Busnes: “Mae Bangor wedi dod yn lle amrywiol iawn yn ddiweddar, felly byddai’n wych gweld mwy o ddigwyddiadau diwylliannol.”
Meddai Claire Hughes, Aelod Seneddol Aberconwy:
“Roedd yn wych siarad am Fangor gyda'r bobl ifanc yng Ngholeg Menai. Mae'n wirioneddol bwysig bod eu lleisiau'n cael eu clywed pan rydyn ni'n siarad am adfywio ac am bethau y mae pobl eisiau eu gweld yng nghanol y ddinas. Diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw am roi o'u hamser ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl atyn nhw gyda rhywfaint o adborth ar sut rydyn ni am fwrw ymlaen â'r syniadau hyn.”
Dywedodd Gwennan Richards, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai:
“Mae’n hyfryd gweld ein dysgwyr yn cyfrannu at ddyfodol eu hardal leol. Roedd y sesiwn hon gyda'r Aelod Seneddol yn gyfle iddyn nhw chwarae rhan weithredol yn eu cymuned ac yn llwyfan iddynt leisio eu barn, wrth feithrin sgiliau cyflogadwyedd allweddol fel cyfathrebu a rhwydweithio ar yr un pryd.”