Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr o Goleg Llandrillo yn codi arian i'r RNLI drwy gydol mis Mai

Yn ystod mis Mai, cymerodd myfyrwyr adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon Coleg Llandrillo ran mewn tair her i godi arian i'r RNLI.

O draethau’r Rhyl i lawr y gampfa yn Llandrillo-yn-Rhos, roedd yr egni a’r ymroddiad a ddangoswyd gan y staff a’r myfyrwyr yn ysbrydoledig.

Yn ogystal â chwblhau'r tair her, fe wnaeth y myfyrwyr greu eu deunyddiau hyrwyddo eu hunain i hybu eu hymdrechion codi arian.

Milltir Calan Mai
Ar 1 Mai aeth myfyrwyr o gampws y Rhyl i’r promenâd, gan gerdded milltir o orsaf yr RNLI yn y Rhyl ac yn ôl. Cawsant fynd o gwmpas yr orsaf gyda gwirfoddolwyr yr RNLI. Wrth edrych ar yr offer, clywodd y myfyrwyr sut beth yw gwirfoddoli i'r RNLI, a'r heriau a'r risgiau y maen nhw'n eu hwynebu wrth helpu'r rhai mewn perygl.

Her Codi Bad Achub
Ar 13 Mai, roedd Campfa'r Academi ar gampws Coleg Llandrillo yn fwrlwm o weithgarwch. Rhoddwyd cryfder a dygnwch y myfyrwyr ar brawf wrth iddyn nhw godi cyfanswm o 42,375kg, sy'n cyfateb i fwy na dau o'r badau achub math Shannon a ddefnyddir gan yr RNLI.

Taith Gerdded i Landudno
Ar 20 Mai, cwblhaodd 33 o fyfyrwyr o gampws Llandrillo-yn-Rhos daith gerdded noddedig o'r coleg i orsaf yr RNLI yn Llandudno ac yn ôl. Yn yr orsaf, cafodd y myfyrwyr groeso cynnes gan Dîm Ymweliadau gorsaf Llandudno. Cawsant gyfle i weld tîm o wirfoddolwyr ar waith pan ddaeth galwad i mewn, gan wylio wrth i'r cwch gael ei lansio o'r traeth. Dysgodd y myfyrwyr hefyd am hanes yr RNLI a gweld rhywfaint o'r hen offer a ddefnyddiwyd gan wirfoddolwyr, gan gynnwys siaced achub corc. Yna cawsant awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel yn y dŵr. Cyn mynd yn ôl i'r coleg, mwynhaodd y myfyrwyr gacen ar y thema bad achub a wnaed yn arbennig ar eu cyfer gan dîm arlwyo'r coleg.

Bob dydd, mae gwirfoddolwyr yr RNLI yn peryglu eu bywydau i ateb galwadau am gymorth. Fel elusen, maent yn llwyr ddibynnol ar roddion i ddarparu'r cit arbenigol a'r hyfforddiant o'r radd flaenaf sydd eu hangen i achub bywydau ar y môr.

Meddai Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Llandrillo: "Mae'r heriau hyn yn cynrychioli'r cryfder, y dygnwch, a'r gwaith tîm sydd eu hangen ar griwiau'r RNLI bob tro y cânt eu galw. Rydyn ni'n hynod falch o'n myfyrwyr am gamu ymlaen i sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn dod adref yn ddiogel. Bydd pob ceiniog maen nhw wedi'i chodi yn mynd tuag at gadw'r badau achub yn weithredol, a'r criwiau'n barod i ymateb pan fydd yr alwad yn dod.”

I gyfrannu, ewch i dudalen Just Giving y myfyrwyr: Cyfrannwch yma: Calan Mai Coleg Llandrillo '26

Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gefnogi, a gerddodd gyda ni, neu a gyfrannodd.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn chwaraeon neu wasanaethau cyhoeddus, mae digon o amser ar ôl i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi 2026. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/full-time-further-education