Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr Chwaraeon Coleg Llandrillo yn cynnal Gemau er cof am Dave Richards i Godi Arian

Trefnodd criw o fyfyrwyr o gwrs Chwaraeon Lefel 2 Coleg Llandrillo ddigwyddiad chwaraeon cofiadwy yn ddiweddar, gan ddod a'r adran at ei gilydd i godi £236 i elusen.

Trefnwyd y twrnamaint chwaraeon blynyddol - Gemau Dave Richards - yn gyfan gwbl gan y criw o fyfyrwyr, gan ddod â 200 o gyfranogwyr ynghyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau gan gynnwys pêl foli, ping pong, pêl-fasged, pêl-droed a sboncen. Roedd ffi o £1 y pen i'r myfyrwyr chwaraeon a'r myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd rhan yn y digwyddiad a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr fel un “hwyliog” a rhywbeth a “ddaeth â phawb at ei gilydd”.

Arweiniwyd digwyddiad eleni gan Owen Hughes (Cadeirydd), Aaron Parkin (Ysgrifennydd), a Riley Patterson, a oedd yn gyfrifol am farchnata. Treuliodd y tîm ddau fis yn cynllunio a chydlynu'r gemau, gan ddangos sgiliau trefnu ac arwain cryf drwyddi draw.

Mae Gemau Dave Richards o arwyddocâd arbennig i'r Grŵp. Sefydlwyd y digwyddiad yn 2024 er anrhydedd i'r cyn-aelod o staff, Dave Richards, a oedd yn Arweinydd Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo cyn iddo ymddeol yn 2020. Cafodd ddiagnosis o ganser yr ymennydd yn fuan wedi hynny, ac felly penderfynodd yr adran drawsnewid y Gemau Nadolig hirhoedlog, a sefydlwyd tua 10 mlynedd yn ôl, yn ddigwyddiad elusennol yn ei enw. Yn anffodus, bu farw Dave, a oedd wedi helpu i drefnu Gemau'r Nadolig, ddechrau 2025.

Cafodd yr arian a godwyd gan ddigwyddiad eleni ei roi i The Walton Centre Charity, lle cafodd Dave driniaeth.

Cymerodd staff ran yn y digwyddiad hefyd, gan gystadlu ochr yn ochr â'r myfyrwyr a chyfrannu at awyrgylch hwyliog y diwrnod.

Dywedodd Sian Backhouse, Cynorthwyydd Gweinyddol: "Fe wnaeth dysgwyr y cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon waith ardderchog yn trefnu a hwyluso'r Gemau Nadolig er cof am Dave Richards eleni, ac fe wnaeth tîm tiwtoriaid yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus fwynhau cystadlu gyda'r dysgwyr. Rydyn ni wrth ein bodd bod y digwyddiad wedi llwyddo i godi cymaint o arian i achos teilwng iawn sy'n agos at ein calonnau."

Mae Gemau Dave Richards yn parhau i fod yn enghraifft bwerus o fenter myfyrwyr, gwaith tîm ac ysbryd cymunedol, wrth anrhydeddu cydweithiwr gwerthfawr sy'n parhau wrth galon gweledigaeth yr Adran.