Myfyrwyr Arlwyo o Goleg Llandrillo yn cyrraedd Rowndiau Terfynol Zest Quest Asia – y tro cyntaf i Gymru ymddangos yn Rownd Derfynol y Gystadleuaeth Goginio Asiaidd
Coleg Llandrillo yw'r coleg cyntaf yng Nghymru i gyrraedd Rownd Derfynol Zest Quest Asia, diolch i dri myfyriwr arlwyo ymroddedig.
Coleg Llandrillo yw'r coleg cyntaf yng Nghymru i gyrraedd Rownd Derfynol Zest Quest Asia, diolch i dri myfyriwr arlwyo ymroddedig. Bydd y cystadleuwyr, Tesni Young, sy'n ddeunaw oed, ynghyd â Hugo Loh ac Arthur Kinnerley-Williams, sy'n ddwy ar bymtheg oed, yn teithio i Lundain ym mis Ebrill i gystadlu yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth goginio Asiaidd. Byddant yn ymuno â thimau o saith coleg yn Lloegr.
“Roedd dechrau gyda 45 o golegau ac yna cyrraedd yr wyth uchaf ar ein cynnig cyntaf yn anhygoel,” meddai Arthur. “ Dw i'n falch ohonon ni ac yn ddiolchgar i'r coleg am y cyfle hwn," ychwanegodd.
Lansiwyd Zest Quest Asia gyntaf yn 2013. Mae hon gystadleuaeth goginio sydd wedi'i chynllunio ar gyfer timau coleg. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu harbenigedd technegol, eu creadigrwydd, eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o fwyd Asiaidd.
Bydd y tri o Goleg Llandrillo, sydd i gyd yn dilyn y cwrs Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, yn arddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau technegol ym maes bwyd Asiaidd dros ddeuddydd yn y rowndiau terfynol ar 9 a 10 Ebrill. Bydd angen iddyn nhw greu argraff ar y beirniaid gyda chyflwyniad 15 i 20 munud ar y diwrnod cyntaf, ac yna cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio fyw ar y diwrnod canlynol.
“Mae’n wych gallu cynrychioli’r coleg yn y gystadleuaeth hon, yn enwedig gan mai ni ydi’r unig goleg o Gymru. Dw i'n cynrychioli fy ngwlad yn ogystal â'r coleg,” meddai Tesni.
Bydd tîm Coleg Llandrillo yn cystadlu am daith fythgofiadwy i gyrchfan gyfrinachol yn Asia. Bydd y lleoliad yn cael ei ddatgelu yn y Noson Gala a'r Cinio Gwobrwyo, a gynhelir nos Wener 10 Ebrill yn yr Hilton London Wembley.
Dywedodd Glen Hughes, Darlithydd yn y Diwydiannau Gwasanaethu yng Ngholeg Llandrillo: “Dw i’n hynod falch o’r tri dysgwr am gyrraedd y rownd derfynol. Mae eu hymroddiad a'u gwaith caled drwy gydol y gystadleuaeth hon wedi bod yn rhagorol. Maen nhw wedi dangos ymroddiad go iawn, gan ddod i i’r coleg yn rheolaidd ar eu diwrnodau i ffwrdd i fireinio, ymarfer a gwella eu prydau. Mae eu brwdfrydedd, eu gwaith tîm a'u penderfyniad yn haeddu'r llwyddiant hwn, ac rydyn ni i gyd yn gyffrous i'w gweld yn cynrychioli'r coleg yn y rownd derfynol.”
Llongyfarchiadau i'n cystadleuwyr a dymunwn y gorau i chi yn y gystadleuaeth!
I weld yr ystod o gyrsiau lletygarwch ac arlwyo sydd ar gael i bobl ifanc ac oedolion yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering
I gael gwybod rhagor am Zest Quest Asia a gweld y rhestr lawn o golegau sy'n cystadlu yn y rownd derfynol, ewch i: https://zestquestasia.com/