Profiad Gwirfoddoli Gwerthfawr i Fyfyrwyr Chwaraeon Coleg Llandrillo
Yn ddiweddar, bu myfyrwyr sy'n dilyn y cwrs Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo yn gwirfoddoli mewn dau ddigwyddiad a drefnwyd gan yr Urdd ar Barc Eirias, Bae Colwyn.
Yn gynharach yn y mis, mi fuodd yr 20 myfyriwr yn dyfarnu yn Nhwrnamaint Pêl-droed 5 bob ochr yr Urdd i ysgolion uwchradd yr ardal. Roedd yr awyrgylch yn drydanol ac mi wnaeth pawb fwynhau'n arw!
Y diwrnod canlynol, a'r haul yn gwenu, dychwelodd y myfyrwyr i helpu plant oedran cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol yn nhwrnamaint Rygbi Cynhwysol yr Urdd. Mae'r digwyddiad hwn ym Mharc Eirias yn rhoi'r cyfle i blant gogledd Cymru gael y profiad o gystadlu yn erbyn ysgolion eraill mewn amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol.
Roedd y myfyrwyr o Goleg Llandrillo yno i helpu plant gymryd rhan a'u cefnogi wrth iddynt ddysgu sgiliau rygbi newydd yn y bore a'u rhoi ar waith yn y twrnamaint yn y prynhawn.
Roedd Dave Roberts, Rheolwr Cynhwysiant Undeb Rygbi Cymru, yn llawn canmoliaeth o waith y myfyrwyr. "Maen nhw wedi bod yn wych heddiw, ac wedi cyfrannu'n gadarnhaol at y digwyddiad."
Mae pwyslais y digwyddiadau hyn ar gymryd rhan, codi hyder a mwynhau ar y cae. Yn ogystal, maen nhw'n tynnu sylw ar bwysigrwydd chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon cynhwysol yn ein cymunedau.
Llongyfarchiadau mawr iawn i'r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled yn y digwyddiadau!