Myfyrwraig o Goleg Llandrillo yn Ennill Teitl Trin Gwallt Cenedlaethol
Myfyrwraig sydd wedi ennill gwobr yn tynnu sylw at fanteision astudio rhan-amser.
“Peidiwch â meddwl am y peth. Jyst ewch amdani. Mi allech chi newid eich bywyd yn llwyr.”
Dyna'r neges bwerus gan Ceri, myfyrwraig ar gwrs trin gwallt, sydd nid yn unig wedi dychwelyd i addysg fel dysgwr aeddfed, ond sydd hefyd newydd ennill gwobr genedlaethol—gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i wireddu eich breuddwyd!
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Ceri, sy'n fyfyrwraig ran-amser yng Ngholeg Llandrillo, Rownd Derfynol cystadleuaeth Dysgwr Trin Gwallt y Flwyddyn 2026, a gynhaliwyd yng Ngholeg Telford. Diolch i’w thalent, ei chreadigrwydd a'i dyfalbarhad fe enillodd y wobr gyntaf yn y categori Torri Gwallt Lefelau 2 a 3. Roedd hi'n un o'r 60 cystadleuydd gorau, o blith 3,000 o fyfyrwyr.
Mae llwyddiant Ceri hyd yn oed yn fwy ysbrydoledig pan ystyriwch ei thaith.
Yn un ar bymtheng oed, breuddwydiodd Ceri am yrfa yn trin gwallt, ond aeth bywyd â hi i gyfeiriad gwahanol. Dros y 25 mlynedd nesaf, datblygodd yrfa yn gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys gofal, manwerthu, lletygarwch a fferylliaeth. Er iddi ennill profiad gwerthfawr, roedd yr uchelgais i weithio ym maes trin gwallt yn parhau.
Ar ôl wynebu sawl diswyddiad, yn fwyaf diweddar pan gaeodd ei gweithle, penderfynodd Ceri ei bod hi'n bryd cymryd rheolaeth o'i dyfodol.
“Roedd yn arwydd perffaith,” meddai hi. “I wneud cwrs trin gwallt a gweithio i mi fy hun.”
Drwy gofrestru ar gwrs trin gwallt rhan-amser yng Ngholeg Llandrillo, cafodd Ceri gyfle i ailhyfforddi wrth gydbwyso ymrwymiadau eraill.
“Dw i'n credu nad ydi hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion a rhoi cyfle i chi eich hun,” meddai.
Bellach yn gweithio mewn salon lleol, mae Ceri yn parhau i feithrin ei sgiliau, magu hyder ac ehangu ei sylfaen o gleientiaid, gan droi uchelgais gydol oes yn yrfa newydd lwyddiannus.
Ei chyngor i eraill sy'n ystyried dychwelyd i addysg?
“Os ydych chi'n ystyried gwneud hyn, ewch amdani. Dydi hi byth rhy hwyr i ennill cymwysterau. Mae'n dair blynedd o'ch bywyd. Ewch amdani.”
Mae stori Ceri yn ein hatgoffa bod cyrsiau rhan-amser i oedolion yn cynnig mwy na chymwysterau yn unig; maent yn agor drysau, yn eich helpu i fagu hyder ac yn creu cyfleoedd i ddechrau o’r newydd.
P'un a ydych chi'n ystyried newid gyrfa, uwchsgilio, neu ddilyn eich diddordeb o'r diwedd, rŵan yw'r amser perffaith i gymryd y cam cyntaf.
I weld pa gyrsiau rhan-amser sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/adult-learners-part-time