Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr o Goleg Menai yn cynnal ei harddangosfa gyntaf mewn galeri ym Mangor

Mae Elain Haf Walker yn fyfyriwr ar y cwrs Celf a Dylunio lefel 3, ac yn ddiweddar arddangosodd ei gwaith yn @109 - gofod creadigol ar Stryd Fawr Bangor.

Cysylltodd @109 ag Elain, 17 oed, i ofyn iddi a fyddai'n cymryd rhan yn niwrnod lansio Sêr y Dyfodol yn yr oriel ym mis Mai, ar ôl gweld enghreifftiau o'i gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal â rhoi'r profiad cyntaf o arddangos mewn oriel i Elain, roedd yr arddangosfa’n gyfle gwych i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Dysgodd rai sgiliau newydd wrth baratoi ar gyfer y sioe hefyd.

“Roedd rhaid i mi ddysgu sut i fowntio paentiadau a dod o hyd i brintiau o ansawdd uchel o fy ngwaith,” meddai Elain.

Gwerthodd Elain dri phrint a dau baentiad gwreiddiol ar y noson.

"Roedd yn deimlad anhygoel gweld sticer coch ar fy ngwaith ar ddiwedd y noson - bod rhywun yn gwerthfawrogi fy ngwaith ddigon i'w brynu", ychwanegodd. Mae'r profiad wedi ysgogi Elain i greu rhagor o baentiadau.

⁠ “Mi wnaeth gadarnhau mai dyma beth dw i eisiau ei wneud yn y dyfodol,” eglurodd. ⁠"Ro'n i'n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth, fy mod i wedi cyrraedd carreg filltir yn fy nhaith artistig." Yn ogystal ag arddangos ei chreadigrwydd a'i sgiliau, roedd y gwaith celf a ddewisodd Elain ar gyfer yr arddangosfa yn adlewyrchu ei thaith bersonol ei hun o wella yn dilyn trawma.

Dywedodd Elain, “Mae Taith Galar, fy hoff baentiad yn yr arddangosfa, wedi'i ysbrydoli gan gân Pink Floyd 'The Great Gig in the Sky' sy'n mynegi galar, trawma a gwella heb eiriau.”

“Mae’r darn hwn yn adlewyrchu fy nhaith bersonol i drwy drawma, gan archwilio sut y gall anhrefn esblygu’n dawelwch ac yn hunan-dderbyniad. “Roedd y broses ei hun yn therapiwtig, ac yn adlewyrchu sut mae gwella yn datblygu dros amser,” parhaodd.

Mae Elain yn ddiolchgar i'w thiwtoriaid yng Ngholeg Menai am ei hyder a’i thwf artistig a arweiniodd at ei harddangosfa gyntaf. “Mae eu hadborth wedi fy helpu i ddatblygu fy nhechnegau ac arbrofi gyda syniadau. Maen nhw wedi fy nghefnogi i ddechrau credu yn fy ngallu fy hun, ac i wthio fy hun yn greadigol,” meddai.

“Ro'n i'n cael llawer o drafferth yn yr ysgol uwchradd,” parhaodd Elain. “Yr unig bwnc ro'n i wir yn ei fwynhau oedd celf ond ro'n i bob amser yn ei weld fel hobi. Doedd gen i ddim syniad be ro'n i eisiau ei wneud yn y dyfodol.”

Arweiniodd dechrau’r cwrs Celf a Dylunio Lefel 3 yng Ngholeg Menai at ddechrau Elain ar lwybr gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

Ar ôl ymchwilio i wahanol lwybrau yn ystod ei hail flwyddyn yn y coleg, mae Elain bellach wedi gosod ei bryd ar ddyfodol mewn therapi celf. “Dwi eisiau helpu pobl i fynegi emosiynau drwy gelf a all fod yn anodd eu rhoi mewn geiriau.”

Mae Elain wedi cael cynnig diamod i astudio celf ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr hydref, ac mae'n edrych ymlaen yn fawr. Mae ganddi ychydig o gyngor i unrhyw un sy'n ystyried astudio celf yng Ngholeg Menai.

⁠ “Peidiwch â phoeni gormod am wneud popeth yn berffaith,” meddai. “Cadwch feddwl agored, peidiwch â bod ofn arbrofi gyda gwahanol arddulliau a thechnegau, a manteisiwch i’r eithaf ar y gefnogaeth a’r adborth gan y tiwtoriaid. Mae wir yn eich helpu i wella ac i fagu hyder yn eich gwaith.”

Da iawn Elain ar dy arddangosfa gyntaf - camp a hanner! Edrychwn ymlaen at ddilyn hynt dy yrfa yn y dyfodol!

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni fis Medi. Ewch i'n gwefan i weld yr ystod o gyrsiau celf, dylunio a ffotograffiaeth sydd ar gael gan Grŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography