Myfyriwr o Goleg Menai yn codi £1,400 i Mind
Yn ddiweddar, cododd Cerys Williams £1,400 i elusen iechyd meddwl Mind. Trefnodd y fyfyrwraig sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddigwyddiad codi arian cymunedol yn ei hardal leol, gan gynnwys gemau bingo a raffl.
Cyflwynodd Cerys, sy'n ddwy ar bymtheg oed, y siec i Bethan sy’n Arweinydd Codi Incwm i Mind, pan ddaeth i Goleg Menai i’w chwrdd.
Trefnodd Cerys y digwyddiad fel rhan o'i phrosiect gwirfoddoli ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. “Roedd ymateb y gymuned yn anhygoel,” meddai Cerys. “Mi ddaeth â phobl o bob oed at ei gilydd.”
Gweithiodd Cerys yn galed i sicrhau cyfraniadau, gan gysylltu â busnesau ac esbonio'i bwriad. Talodd y cyfan ar ei ganfed pan gyfrannodd busnesau lleol wobrau hael ar gyfer y raffl a'r bingo.
“Dangosodd y profiad i mi pa mor bwerus ydi codi arian pan fydd pobl yn deall yr achos a’r ymdrech tu cefn iddo,” ychwanegodd Cerys.
Yn ogystal â'i helpu i gwblhau elfen wirfoddoli ei chwrs , mae Cerys yn teimlo bod y profiad yn hynod werthfawr. “Mi wnes i ddewis Mind Conwy gan fy mod eisiau cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn yn y gymuned. Dw i’n teimlo bod hwn yn faes sy’n cael ei anghofio’n aml.”
Roedd Cerys yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r arweiniad a gafodd gan y tiwtoriaid yng Ngholeg Menai drwy gydol ei phrosiect. “Mi wnaeth eu cyngor fy helpu i gadw trefn ac i ganolbwyntio ar fy nodau,” meddai hi.
Nid Cerys yw'r unig fyfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Menai sydd wedi codi arian i Mind. Cododd dysgwyr Lefel 1 o gampws Llangefni £309.72 i'r elusen drwy drefnu nifer o ddigwyddiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafodd y myfyrwyr, sydd bellach wedi symud ymlaen i'r cwrs Lefel 2, hefyd gyfle i gwrdd â Bethan a chyflwyno eu siec yn bersonol.
Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr, am waith gwych! A diolch i'r holl fusnesau lleol a gyfrannodd wobrau ar gyfer digwyddiad Cerys, gan ddangos ysbryd cymunedol ar ei orau.
Os ydych chi'n meddwl mai gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ydi'r dyfodol i chi, dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch draw i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn y Grŵp: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/health-and-social-care