Prentis Peirianneg o Goleg Menai wedi ei enwebu am wobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru eleni
Mae Alister Hughes, prentis peirianneg dwy ar bymtheg oed o Goleg Menai, yn un o’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yn Arena Abertawe ar 16 Ebrill.
Cafodd Alister, sy'n cwblhau ei brentisiaeth gyda Hufenfa De Arfon, ei enwebu gan ei gyflogwr. Canmolwyd ef am ei ymroddiad, ei ymagwedd ddigynnwrf, a'i falchder yn ei waith. Mae ei gydweithwyr yn ei ddisgrifio fel ased go iawn i'r busnes a llysgennad gwych dros gynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Dywedodd Eurfon Davies, Rheolwr y Maes Rhaglen Peirianneg yng Ngholeg Menai: “Mae Alister Hughes yn enghraifft wych o sut mae ymroddiad ac uchelgais yn edrych yn y gweithle. Fel Prentis Cynnal a Chadw Peirianyddol ifanc sy'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 3 a Diploma Technegol Lefel 3 yng Ngholeg Menai, mae'n dangos agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad cryf i ddysgu.
“Gyda chefnogaeth ei gyflogwr, Hufenfa De Arfon, mae Alister wedi rhagori ac mae’n enwebai teilwng ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru. Mae'n cynrychioli'r coleg gyda balchder a phroffesiynoldeb, ac rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant iddo yn awr ac yn y dyfodol disglair sydd o'i flaen.”
Mae Hufenfa De Arfon hefyd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Gymunedol. Mae'r cwmni cydweithredol sy'n eiddo i ffermwyr wedi cael ei gydnabod am ei fenter codi arian 'O Laeth i Ddiffibrilwyr', sydd â'r nod o ddarparu diffibrilwyr sy'n achub bywydau i gymunedau gwledig. Mae'r grŵp yn angerddol am gefnogi'r ardaloedd lle mae eu ffermwyr yn byw ac yn gweithio.
Pob lwc i Alister a Hufenfa Caernarfon!
I gael gwybod mwy am fod yn brentis yng Ngrŵp Llandrillo Menai ewch i: https://www.gllm.ac.uk/course-...