Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lora Pritchard yw Myfyriwr y Flwyddyn CAFC

Mae Lora Pritchard, a raddiodd yn ddiweddar o Grŵp Llandrillo Menai, wedi cael ei henwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru!

Enwebwyd Lora, sy'n 18 oed ac a raddiodd o'n campws yng Nglynllifon eleni gyda Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, gan y coleg i gydnabod ei hymroddiad, ei hangerdd a'i gwaith caled rhagorol drwy gydol ei hastudiaethau.

Roedd derbyn y wobr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn goron ar flwyddyn anhygoel i Lora. Cyn iddi ennill ar faes y sioe, cafodd ei hymdrechion eithriadol eu cydnabod yn Seremoni Wobrwyo Glynllifon 2026, lle dyfarnwyd y wobr am Gyfraniad Arbennig iddi.

Wrth siarad am ei chyflawniad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, dywedodd Lora:

"Roedd yn bleser derbyn yr anrhydedd hon, sef cael fy enwi'n Fyfyriwr y Flwyddyn gan Gymdeithas Frenhinol Cymru. Rydw i'n hynod ddiolchgar i Goleg Glynllifon am yr enwebiad, ac am yr holl brofiadau a chyfleoedd sydd wedi bod yn rhan o'r daith wnaeth arwain at yr eiliad anhygoel hon. Diolch yn fawr!"

Roedd yn ddathliad dwbl i'r teulu yn y Sioe, wrth i Lora hefyd rannu ei balchder yn llwyddiant ei mam, gan ychwanegu: "A llongyfarchiadau i Mam ar ennill ei dosbarth gyda'i gwlân Dorset!"

Gan ei bod bellach wedi gorffen ei diploma, mae Lora rŵan yn bwriadu mynd i astudio gradd mewn Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gan gyfuno ei chefndir amaethyddol gyda'i hangerdd dros y cyfryngau, mae Lora yn gobeithio gweithio ym myd darlledu fel cyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni teledu ffermio ac amaethyddol i ddod â straeon bywyd gwledig ac amaethyddiaeth fodern i sgriniau ledled y wlad.

Llongyfarchiadau, Lora!