Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dim gwaeth na gofyn: Sut arweiniodd cais gan fyfyriwr o Goleg Llandrillo at well mynediad at Heddlu Gogledd Cymru i'r gymuned Fyddar.

Mae myfyriwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o Goleg Llandrillo yn gwneud argraff ac yn helpu i chwalu rhwystrau cyfathrebu i'r gymuned Fyddar.

Mae Paula Williams, o'r Fflint, yn dilyn cwrs Iaith Arwyddion Prydain Lefel 4 ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae ei phrofiadau personol a'i hastudiaethau wedi tynnu sylw Paula at yr heriau dyddiol y mae ei ffrindiau agos yn y gymuned Fyddar yn eu hwynebu, ac mi benderfynodd ei bod hi'n amser newid pethau er gwell.

Diolch i gydweithio agos â Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (PCC), mae ei hymdrechion wedi arwain at sefydlu hwb Iaith Arwyddion Prydain ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae'r hwb yn cynnwys fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r Cynllun Heddlu a Throseddu, gan wneud polisïau plismona a gwybodaeth am atal troseddu yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, ac mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gobeithio ehangu ei darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain ymhellach wrth i wybodaeth newydd gael ei chyhoeddi.

Ysgogwyd Paula i weithredu ar ôl iddi glywed am y dulliau hen ffasiwn a ddefnyddir i gyfathrebu â'r gymuned Fyddar.

“Dw i'n gwybod am y rhwystrau dyddiol y maen nhw'n eu hwynebu,” eglurodd Paula. "Dyma enghraifft i chi, mae rhywun wedi dod o hyd i bwrs ar y stryd ac eisiau mynd a'r pwrs i’r orsaf heddlu leol. Sut maen nhw'n mynd i gyfathrebu? Nid yw pawb yn y gymuned Fyddar yn darllen ac yn ysgrifennu, nac yn darllen gwefusau. I rai, iaith arwyddion yw eu hiaith gyntaf a'u hunig iaith. Mae pasio nodiadau dros y cownter yn system mor hen ffasiwn. Dw i eisiau i'r gymuned Fyddar deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys, ac yn eu bod yn gallu byw bywyd annibynnol.”

Cafodd Paula ei hysbrydoli i weithredu pan oedd hi'n astudio Iaith Arwyddion Prydain ac yn dysgu am ddiwylliant y gymuned Fyddar. Helpu i gael gwared ar rwystrau y mae'r gymuned fyddar yn eu hwynebu bob dydd.

Cysylltodd Paula â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin. Anfonodd neges e-bost at ei swyddfa a gofyn a oedd modd defnyddio fideos gyda gwybodaeth wedi'i chyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cynorthwyo'r gymuned Fyddar.

Ers hynny, mae Paula wedi siarad â llawer o bobl wahanol yn yr heddlu ac wedi cynnig enghreifftiau o'r hyn sydd ar goll a sut y gellid gwella mynediad.

"Dim ond ers mis Hydref dw i wedi bod yn siarad â nhw," meddai Paula. "Maen nhw wedi gweithredu mor gyflym — dw i wedi fy synnu a dw i mor ddiolchgar. Maen nhw wedi gwneud hyd yn oed mwy na'r pethau y gofynnais amdanynt yn wreiddiol i wneud gwahaniaeth a phontio'r bwlch o ran cyfathrebu a mynediad."

Yn dilyn cais cychwynnol Paula, mae Swyddfa'r PCC, dan arweiniad y tîm Craffu a Sicrwydd, wedi gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr y diwydiant, Sign Solutions, i gyflwyno uwchraddiadau hygyrchedd.

Un o'r newidiadau allweddol ydy'r Hwb Iaith Arwyddion Prydain ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sy'n golygu y gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o gynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd : “Dw i’n gwerthfawrogi mewnbwn gan aelodau’r cyhoedd, mae angen pobl wych fel Paula yn gofyn pam nad ydym yn gwneud rhywbeth neu ddweud wrthym y dylem gynnig gwasanaeth gwahanol neu well. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom sy'n ymwneud â gwasanaeth cyhoeddus i ymateb i'r her a bodloni disgwyliadau trigolion. Dw i'n gobeithio mai dyma ddechrau darpariaeth llawer gwell o gyfleoedd a mynediad i'r gymuned Iaith Arwyddion Prydain yng Ngogledd Cymru gan fy swyddfa i a gan yr Heddlu.”

Mae Paula yn priodoli ei hyder i gamu ymlaen i'r gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan yr adran Astudiaethau Byddar yng Ngholeg Llandrillo.

“Dw i mor ffodus i gael David Duller yn diwtor Iaith Arwyddion Prydain yng Ngholeg Llandrillo,” meddai Paula. "Diolch i'w arbenigedd, ei ddoethineb, ei anogaeth, a'i amynedd yn fwy na dim, dw i wedi cyrraedd y pwynt yma." Mae tîm yr adran Astudiaethau Byddar yn galonogol ac yn gefnogol iawn."

Dywedodd ei thiwtor, David: “Mae twf, ymroddiad ac ymrwymiad Paula i'r gymuned Fyddar wedi bod yn eithriadol. Mae ei pharodrwydd i roi amser ychwanegol i fynychu a chefnogi digwyddiadau i'r Byddar yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Dechreuodd Paula ddysgu Iaith Arwyddion Prydain gyda'r nod o ddysgu sut i gyfathrebu, ond mae ei gwaith gyda'r gymuned Fyddar leol wedi arwain at lwybr gyrfa hollol newydd.

“Mae astudio Iaith Arwyddion Prydain a dysgu am ddiwylliant y gymuned Fyddar wedi fy sbarduno i wneud rhagor,” meddai.

Mae hi ar ganol blwyddyn gyntaf y cwrs Lefel 4 , ac mae Paula yn benderfynol o gwblhau cymhwyster Lefel 6 a dod yn gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain cofrestredig yn swyddogol. Mae hi hefyd yn nodi'r galw cynyddol am weithwyr proffesiynol lleol, yn enwedig yn sgil pasio Bil Iaith Arwyddion Prydain.

Wrth fyfyrio ar ei thaith, mae Paula yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith: “Mae gennym ni gyfieithwyr cofrestredig anhygoel yma yng Ngogledd Cymru, a dechreuodd llawer ohonyn nhw eu taith yma yng Ngholeg Llandrillo. Dw i'n gobeithio parhau â fy astudiaethau a dilyn yr un llwybr yn y dyfodol. Dw i'n eich annog i ymuno â mi ar y daith hon. Dysgwch iaith newydd sy'n hwyl, a chewch gefnogaeth barhaus gan ddarlithwyr o'r radd flaenaf. Dw i'n falch fy mod i wedi gwneud hynny.”

Gallwch ddod o hyd i fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r Cynllun Heddlu a Throseddu yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/hwb-bsl

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain, i unigolion ac i fusnesau sydd am uwchsgilio staff a dod yn fwy cynhwysol. Ewch i'r wefan i gael gwybod rhagor: https://www.gllm.ac.uk/cy/search?courseType=part-time-training&programmeArea=deaf-studies-and-sign-language neu cysylltwch ag Abbi Woodyear ar a.woodyear@gllm.ac.uk neu 01492 546666 est. 1726 i drafod opsiynau pwrpasol ar gyfer busnesau.