Myfyriwr o Goleg Menai yn coginio i gogydd adnabyddus Chris Summers yn Eisteddfod yr Urdd
Mae Ruben Schlegel Evans, sy'n fyfyriwr ar gwrs lefel 1 mewn Arlwyo, wedi profi nad oes angen blynyddoedd o brofiad arnoch i sefyll allan yn y gegin.
Mi syfrdanodd y beirniaid yng nghystadleuaeth CogUrdd i rai rhwng 16 a 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn ddiweddar.
Dewiswyd Ruben, 17 oed, yn un o ddim ond saith cogydd ifanc o bob cwr o Gymru, i gyrraedd y rownd derfynol.
Roedd angen gweithio dan bwysau yn y rownd derfynol fyw. Dim ond dwy awr oedd gan y cystadleuwyr i goginio dau gwrs ar eu pen eu hunain. Yr her i'r cystadleuwyr oedd coginio prif gwrs yn defnyddio porc Cymreig ynghyd â thatws, moron a phannas, a chreu pwdin afal a oedd yn cynnwys elfen boeth ac elfen oer.
Penderfynodd Ruben greu bwydlen a oedd yn dathlu ei wreiddiau ei hun drwy gymysgu cynhwysion lleol o Gymru ag arddulliau coginio clasurol o'r Swistir. Ar gyfer ei brif saig, coginiodd schnitzel porc crimp â chrwst o berlysiau.
Treuliodd fisoedd yn ymarfer gyda gwahanol ddarnau o gig cyn dewis llwyn porc, o siop gigydd OG Owen yng Nghaernarfon. Roedd y cigyddion lleol yn hynod o gymwynasgar, gyda rhai yn rhoi awgrymiadau proffesiynol iddo hyd yn oed!
“Roedd mynd i siop gigydd OG Owen i gael porc Cymreig o ansawdd da yn bwysig iawn i mi. Roedd yr holl staff yn barod iawn i helpu. Mi wnaethon nhw siarad efo fi am fy mhryd, ac mi ges i gyngor ar sut i gael y gael y schnitzel yn fwy crimp a blasus”.
Gweinodd y schnitzel gyda gratin tatws, moron a phannas wedi'i haenu â saws caws o'r Swistir ac ychydig o sbeis. Gan arddangos ei sgiliau a'i agwedd at gynaliadwyedd, defnyddiodd Ruben y llysiau oedd dros ben o'i gratin i wneud colslo ffres i'w weini gyda'i bryd mwyn sicrhau nad oedd dim yn cael ei wastraffu.
Talodd ei waith caled ar ei ganfed wrth i'r cogydd Chris Summers flasu ei saig a’i alw’n “gratin perffaith”.
“Ro'n i mor falch o'i sylwadau cadarnhaol. Mi wnaethon nhw fy ysbrydoli,” meddai Ruben.
I bwdin, gwnaeth Ruben rosod afal â llaw a'u pobi gyda jam bricyll a siwgr sinamon. Er mwyn cyflawni'r briff o ddefnyddio elfennau poeth ac oer, gweinodd y rhosod afal cynnes gyda mêl lleol o Ynys Môn a hufen fanila oer, oedd wedi'i chwipio â llaw. Yn goron ar y cwbl, cyflwynodd y bwyd ar blatiau Portmeirion â streipiau gwyrdd a choch i gyd-fynd â lliwiau swyddogol yr Urdd.
Er mai Ruben oedd yr ieuengaf a'r lleiaf profiadol yn y rownd derfynol, yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr hŷn a oedd ymhellach ymlaen yn eu taith coleg, roedd yn hynod falch o'r hyn a gyflawnodd. Mae'n dweud bod yr adborth gwych a gafodd gan gogydd proffesiynol wedi rhoi hwb enfawr i'w hyder.
Mae Ruben yn annog myfyrwyr eraill i roi cynnig ar gystadlaethau.
“Mi fyddwn i’n argymell yn gryf i unrhyw un sy’n astudio, hyd yn oed os ydych chi ar lefel 1, i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn oherwydd rydych chi’n dysgu cymaint gan y cystadleuwyr eraill, yn ogystal â chael adborth gan gogydd proffesiynol,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o fy nhaith yn y gystadleuaeth hon. Diolch yn arbennig i mam a dad am fwyta a rhoi adborth i mi ar gynifer o seigiau porc dros y misoedd diwethaf wrth i mi baratoi ac ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth,” ychwanegodd Ruben.
Meddai Iolo, sy'n Chef-ddarlithydd yng Ngholeg Menai: “Mae Ruben wedi mwynhau ei flwyddyn yn dysgu hanfodion coginio yng Ngholeg Menai. Mae Ruben yn ddysgwr diwyd ac uchelgeisiol; creodd fwydlen arloesol a oedd yn adlewyrchu ei gefndir Cymreig a'i dreftadaeth o'r Swistir, gan wneud saig schnitzel a defnyddio cynhyrchion a chyflenwyr lleol.
“Dwi’n falch iawn o Ruben am gynrychioli Coleg Menai mor dda yn eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn, cafodd adborth rhagorol gan y cogydd Chris Summers a dwi’n siŵr ei fod yn brofiad dysgu gwerth chweil iddo. Da iawn, Ruben!
Mae Ruben yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Goleg Menai ym mis Medi a symud ymlaen i astudio ar y cwrs lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gyrfa fel cogydd, dydy hi ddim yn rhy hwyr i chi ymuno â ni fis Medi! Ewch i'n gwefan i weld y cyrsiau lletygarwch ac arlwyo sydd ar gael gan y Grŵp: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering