Cadw’r cydbwysedd rhwng addysg a magu teulu: Sut gwnaeth Megan a Saxon, sy'n rhieni ifanc, adeiladu dyfodol disglair yng Ngholeg Llandrillo
Gyda llond trol o ymroddiad a chymorth gan deulu, ffrindiau a thiwtoriaid cefnogol, y cam nesaf yw graddau mewn gofal iechyd ac uchelgeisiau mawr!
Nid yw cadw cydbwysedd rhwng gwaith cwrs a gofynion bob dydd magu plentyn ifanc yn dasg hawdd, ond i Megan, sy'n bedair ar bymtheg oed, a Saxon, sy'n ugain oed, mae wedi bod yn sbardun i greu dyfodol disgleiriach i'w teulu.
Yn ddiweddar, cwblhaodd y ddau fyfyriwr Ddiploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, carreg filltir sy'n eu rhoi ar y llwybr tuag at yrfaoedd gwerth chweil yn y sector gofal iechyd.
Dod o hyd i'r llwybr cywir
I Megan, roedd cymryd y cam i gofrestru mewn addysg bellach wedi'i sbarduno gan un nod clir: roedd hi eisiau sefydlogrwydd i'w merch.
"Ro'n i eisiau gyrfa lle ro'n i'n gallu cael swydd sefydlog a sefydlogrwydd ariannol, nid yn unig ar gyfer fy nyfodol i ond ar gyfer dyfodol fy merch hefyd," eglura Megan. "Doeddwn i ddim yn siŵr beth yn union ro'n i eisiau ei wneud ar y dechrau, ond ro'n i'n gwybod fy mod i eisiau mynd i'r sector gofal iechyd. Mi wnes i benderfynu dechrau'r cwrs hwn oherwydd ei fod yn agor cymaint o lwybrau ac opsiynau gwahanol."
Er bod teuluoedd Megan a Saxon y tu cefn iddynt i gynorthwyo gyda gofal plant, gallai'r heriau ariannol a'r heriau dydd i ddydd o gadw cydbwysedd rhwng magu teulu ac astudio fod wedi bod yn rhwystr o hyd. Ond, fe helpodd gwasanaethau cymorth Coleg Llandrillo i bontio'r bwlch.
“Mae yna amrywiaeth o wahanol fathau o gefnogaeth i rieni sy’n mynd i’r coleg”, meddai Megan. “Er enghraifft, mae ganddyn nhw grant gofal plant sy’n talu am 95% o gostau gofal plant, sy'n lleihau’r pwysau ariannol. Fy merch oedd y sbardun i mi gyflawni'r gorau y gallwn tra o'n i yn y coleg.”
Amgylchedd campws cefnogol
Y tu hwnt i’r cymorth ariannol, mae Megan yn tynnu sylw at agwedd gefnogol ei thiwtoriaid fel ffactor allweddol i’w llwyddiant.
"O'r diwrnod cyntaf, mae'r coleg a'r tiwtoriaid wedi bod yn gefnogol ac yn gynhwysol iawn o ran fy amgylchiadau," meddai hi. "Mae rhai dyddiau'n gallu bod yn anodd, yn flinedig, neu'n golygu colli dosbarth, ond mae'r tiwtoriaid bob amser yno i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant. Mae'r gefnogaeth a ges i wedi fy helpu i fagu hyder a rhoi hwb i fy ngwydnwch wrth gadw cydbwysedd rhwng bywyd coleg a bod yn rhiant."
Mae Megan hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod dychwelyd i addysg wedi bod yn achubiaeth yn ystod cyfnod sy'n gallu bod yn ynysig i rieni ifanc.
"Mae bod yn rhiant ifanc yn gallu bod yn unig iawn," meddai. "Mae mynd i'r coleg yn helpu gyda'r ochr gymdeithasol; rydych chi'n cwrdd â rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg ac yn gwneud ffrindiau newydd. Er bod heriau, mae cymaint o gefnogaeth ac arweiniad i'ch helpu ar y daith."
Y camau nesaf i ofal iechyd
Gyda'u cymwysterau Lefel 3 dan eu belt, mae Megan a Saxon bellach yn camu i'r bennod nesaf yn eu teithiau academaidd a phroffesiynol.
Mae Megan yn mynd i Brifysgol Caer i ddechrau gradd Meistr integredig mewn Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl. Mae Saxon yn cymryd blwyddyn i ffwrdd ac am weithio ar gymwysterau gwyddoniaeth ychwanegol, gyda'r nod yn y pen draw o wneud cais am gwrs meddygaeth.
Wrth fyfyrio ar ei chyfnod yng Ngholeg Llandrillo, mae Megan yn cynnig cyngor calonogol i unrhyw un sy'n ystyried addysg bellach:
"Mae pob cwrs yn y coleg yn arwain at gyfleoedd gwahanol, p'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol, yn mynd yn syth i mewn i waith, neu'n defnyddio'r amser i ddarganfod beth rydych chi am ei wneud. Pa bynnag lwybr a gymerwch, bydd yn eich helpu i adeiladu eich dyfodol a dyfodol eich plant."
Ydych chi'n ystyried eich camau nesaf ar hyn o bryd? P'un a ydych chi'n gadael yr ysgol neu'n ystyried newid gyrfa, dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch draw i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...