Myfyriwr o Bwllheli yn Ennill Gwobr Greadigrwydd yng Ngwobrau Arloesi CBAC 2025
Mae myfyriwr Dylunio a Thechnoleg o Goleg Meirion-Dwyfor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl ennill Gwobr Greadigrwydd yng Ngwobrau Arloesi CBAC 2025.
Anrhydeddwyd Mari Lois Williams am ei phrosiect Dylunio a Thechnoleg eithriadol, a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gemwaith amlbwrpas i gefnogi unigolion ag Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (SPD). Roedd ei gwaith arloesol yn sefyll allan am ei addasrwydd i bawb, ei fewnwelediad personol a'i allu i gael ei ddefnyddio yn y byd go iawn.
Mae Gwobrau Arloesi CBAC yn dathlu'r gwaith TGAU a TAG Dylunio a Thechnoleg fwyaf arloesol o ganolfannau CBAC ledled Cymru a thu hwnt. Cynhaliwyd gwobrau 2025 ym Mae Caerdydd. Roedd yn cynnwys arddangosfa o tua 80 o'r prosiectau mwyaf creadigol gan fyfyrwyr sy'n astudio Dylunio a Thechnoleg ar gyfer TGAU a Safon Uwch.
Enwebir prosiectau i'w hystyried gan gymedrolwyr allanol a staff addysgu yn ystod y broses safoni gwaith cwrs. Eleni, enwebwyd wyth prosiect o gampws Pwllheli, gyda phrosiect Mari wedi'i ddewis i gael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer yr arddangosfa a'r gystadleuaeth genedlaethol.
Dyluniwyd gemwaith Mari i ymgorffori cymhorthion synhwyraidd yn ddisylw, gan helpu unigolion ag SPD i leihau'r straen a achosir gan sbardunau clywedol, tra hefyd yn gallu cael eu gwisgo fel darnau addurniadol deniadol.
Wrth siarad am ei phrosiect, dywedodd Mari:
“Roedd y gemwaith a greais yn caniatáu i mi drawsnewid cymhorthion synhwyraidd yn rhywbeth hardd y gellir ei wisgo heb gywilydd. Mae'n bosibl ei wisgo'n addurniadol, ond gall hefyd helpu'r rhai sydd ag SPD i ddileu sbardunau clywedol. Fy mwriad oedd darparu ar gyfer y rhai sydd â phrofiadau tebyg i mi.”
Wrth fyfyrio ar ei gwobr, ychwanegodd:
“Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi. Dw i'n falch iawn o'r amser a dreuliais yn datblygu a chreu'r prosiect hwn, a dw i'n credu ei fod yn gam yn nes at ddarparu ar gyfer y rhai sydd ag anghenion hygyrchedd ac anghenion synhwyraidd.”
Canmolodd Delyth Mai Williams, Darlithydd Dylunio a Thechnoleg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, gyflawniad Mari a'r ethos y tu ôl i'w gwaith, gan ddweud:
“Unwaith eto mae’n fraint i’r Coleg fod gwaith caled a dyfeisgarwch y dysgwyr yn cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol fel hyn.
Mae myfyrwyr Dylunio a Thechnoleg Coleg Meirion-Dwyfor yn cael eu hannog i ddylunio ar gyfer marchnad go iawn, gan ddatrys problemau sy'n wynebu unigolion heddiw. Ysbrydolwyd Mari i ddylunio gemwaith amlbwrpas i alluogi dioddefwyr SPD i leihau straen mewn amgylcheddau swnllyd.”
Ers cwblhau ei hastudiaethau yn y coleg, mae Mari wedi symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd, lle mae hi'n astudio Daearyddiaeth, gan barhau â'i thaith academaidd yn dilyn y llwyddiant cenedlaethol sylweddol hwn.