Manon Awst, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2026
Bydd Manon yn arddangos celf Gymreig i'r byd mewn arddangosfa ddiwylliannol enwog yn yr Eidal. Sefydlwyd Biennale Fenis yn 1895 ac mae'n rhoi llwyfan i gelf, pensaernïaeth, ffilmiau, dawns, cerddoriaeth a theatr.
Cydweithiodd Manon â Dylan Huw, artist arall o Gymru, ar brosiect Sownd, ac mae'r gwaith bellach yn rhan o'r Arddangosfa Gelf Ryngwladol yn Fenis. Bydd arddangosfa Sownd i'w gweld am ddim yn adeilad hanesyddol yr Instituto Santa Maria della Peite tan fis Tachwedd 2026.
Arddangosfa Sownd ydy'r degfed tro i Gymru fod yn rhan o ddigwyddiadau Biennale Fenis, y dathliad mwyaf yn y byd o gelf weledol.
Gall 'sownd' olygu un ai 'methu symud' neu 'seiliau cadarn', ac mae'r arddangosfa'n archwilio'r cyferbyniad rhwng y ddau ystyr. Mae popeth yn y gofod arlunio, gan gynnwys yr iaith, yn gerfluniol, a defnyddia'r arddangosfa ddeunyddiau naturiol, eitemau a ganfuwyd, a sain i drochi'r gynulleidfa.
Mawndiroedd Cymru a'u daeareg ysbrydolodd yr artistiaid ac maent yn defnyddio deunyddiau o'r tirweddau hyn yn eu harddangosfa yn Fenis.
Cyngor Celfyddydau Cymru a'r rhaglen Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n comisiynu ac yn rheoli prosiect Cymru yn Fenis. Y ddwy oriel sy'n cydarwain arddangosfa Sownd yw Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin ac Oriel Davies yn y Drenewydd.
Meddai Manon: “Mae Cymru yn Fenis yn cynnig cyfle unigryw a dw i’n falch iawn o gael gweithio gyda Dylan, Oriel Davies ac Oriel Myrddin ar Sownd. Mae ein prosiect yn dechrau sgwrs rhwng tirweddau gwlyb, gludiog Cymru a Fenis, gan ffurfio llwybrau cydweithredol newydd ar gyfer cerflunio iaith a deunydd. Bydd yn anrhydedd rhannu’r gwaith gyda chynulleidfaoedd rhyngwladol mewn digwyddiad cyfochrog yn arddangosfa gelf ryngwladol La Biennale di Venezia ac yn lleol ledled Cymru.”
Dilynodd Manon gwrs Gradd Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai yn 2001 ac aeth ymlaen i Brifysgol Caergrawnt i astudio pensaernïaeth.
Mae hi'n byw yng Nghaernarfon ac yn creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu â naratifau ecolegol. Mae Manon wedi parhau i gadw cysylltiad agos â'r coleg, ac yn diwtor Astudiaethau Cyd-destunol ar y cwrs BA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Menai.
Meddai Paul Edwards, Rheolwr Maes Rhaglen y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai:
“Rydyn ni wedi dilyn gyrfa Manon dros y blynyddoedd, ac mae pawb yn hynod falch o'i llwyddiant cynyddol a'r hyn mae hi wedi'i gyflawni. Mae Manon wastad wedi bod yn gefnogol iawn o'r coleg, yn enwedig y cwrs Sylfaen mewn Celf, ac wedi bod yn barod iawn i rannu ei phrofiadau â dysgwyr drwy gynnal dosbarthiadau meistr, ymweld â ni fel siaradwr gwadd, a dod i agor ein harddangosfa flynyddol. Pob dymuniad da i ti Manon gyda'r arddangosfa Sownd yn Biennale Fenis”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y celfyddydau? I weld y dewis helaeth o gyrsiau celf a chyrsiau creadigol sydd ar gael i ymadawyr ysgol ac oedolion, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography
Gall eich taith greadigol gychwyn yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ond d'oes wybod i ble'r aiff â chi yn y pen draw.