Mae'n fwy na chwrs: Sut mae Grŵp Llandrillo Menai'n helpu myfyrwyr i ffynnu
Mae dechrau yn y coleg yn garreg filltir bwysig. Mae dewis y cwrs cywir yn rhan fawr o'r daith, ac mae cael y rhwydwaith cymorth iawn yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Stori Tammi: Mynd o'r ysgol i'r coleg yn hyderus
Gall dod i'r coleg deimlo'n frawychus i lawer o ddysgwyr. Dyna'n union sut roedd Tammi'n teimlo cyn ymuno â ni. Roedd Tammi’n mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos i ddechrau ar gwrs cyswllt wrth astudio yn Ysgol y Gogarth a chafodd gymorth gan Gydlynydd Cymorth Dysgu Coleg Llandrillo, Amanda. Ym mis Medi bydd hi'n cymryd y cam nesaf i ymuno â ni'n llawn amser i astudio'r Cyfryngau.
"Roeddwn i'n teimlo'n eitha' nerfus am ddechrau yn y coleg.Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai Tammi. "Gwnaeth y cwrs cyswllt fy helpu i ddeall beth fydd yn digwydd ym mis Medi. Daeth Amanda i'm hadolygiad blynyddol a sgwrsio gyda fi a fy mam am yr hyn i'w ddisgwyl."
Er mwyn tawelu ei nerfau, roedd Amanda yno i gefnogi Tammi yn ystod ei chyfweliad i gofrestru ar y cwrs, ac arweiniodd hi a'i mam ar daith dywys o amgylch y campws.
"Dangosodd Amanda i ni lle mae'r ganolfan astudio a lle bydd fy ystafell ddosbarth," meddai Tammi. "Fe wnaeth y staff yn fy ysgol fy helpu i deimlo'n fwy parod ar gyfer y coleg, a gwnaeth y staff yn y coleg fy helpu i deimlo'n barod i ddod i'r coleg yn llawn amser."
Heddiw, mae Tammi yn teimlo'n barod i wynebu'r bennod fawr nesaf hon:
"Mae'r cwrs cyswllt wedi fy helpu i deimlo'n fwy annibynnol ac yn barod i fynd i'r coleg ar fy mhen fy hun pan fyddaf yn gadael yr ysgol. Mae wedi fy helpu lot, dw i'n teimlo'n fwy hyderus am ddechrau ym mis Medi. Dw i'n edrych ymlaen at gwrdd â fy ffrindiau a'm tiwtoriaid newydd!"
Cymorth wedi'i deilwra ar gyfer taith pob unigolyn
Dim ond un enghraifft ydy profiad Tammi o sut mae ein timau'n cydweithio i wneud y symud i'r coleg mor llyfn â phosib. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau pwrpasol yn ein holl gampysau:
Mae'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr, teuluoedd ac ysgolion, yn union fel y gwnaeth Amanda gyda Tammi, i roi cynlluniau cymorth personol ar waith. Rydym yn sicrhau bod gan bob myfyriwr yr hyn sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo, o sgiliau astudio ac offer arbenigol i gefnogaeth benodol yn yr ystafell ddosbarth ac yn y Canolfannau Astudio.
Cymorth iechyd meddwl a llesiant
Mae symud i addysg bellach yn dod ag arferion a heriau newydd. Mae ein staff Llesiant yn cynnig arweiniad cyfrinachol, heb farnu, cefnogaeth bersonol, a mynediad at adnoddau i'ch helpu i reoli straen, cadw'n gytbwys, a gofalu am eich iechyd meddwl drwy gydol eich amser gyda ni.
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf?
Mae'r coleg yn bennod newydd gyffrous, ac nid oes rhaid i chi lywio drwyddi ar eich pen eich hun. Dim ots beth yw eich cefndir, eich anghenion neu eich nodau, mae Grŵp Llandrillo Menai yma i'ch cefnogi o'r diwrnod cyntaf.
Angen cymorth gyda dysgu? Dysgwch ragor am ein cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): https://www.gllm.ac.uk/cy/student-hub/additional-learning-needs-aln
Chwilio am arweiniad ynghylch llesiant? Edrychwch ar ein hadnoddau Llesiant Myfyrwyr: https://www.gllm.ac.uk/cy/student-hub/your-wellbeing-in-college