Ethol Llywyddion Newydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer 2026/27
Bydd Cai Osian Jones, Chloe Chant, Sian Williams a Karla Rix yn gweithio i roi llais i fyfyrwyr ac i gyfoethogi eu profiadau yn y coleg.
Mae llywyddion newydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 wedi cael eu hethol.
Y llywyddion newydd yw Cai Osian Jones (Coleg Llandrillo), Chloe Chant (Coleg Menai), Sian Williams (Coleg Meirion-Dwyfor) a Karla Rix (Addysg Uwch).
Bydd y cynrychiolwyr newydd yn rhoi llais i fyfyrwyr campysau'r Grŵp ac yn gweithio i gyfoethogi eu profiadau yn y coleg.
Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud am gael eu dewis i gynrychioli eu cyd-ddysgwyr:
Cai Osian Jones (Coleg Llandrillo)
Mae Osian ar ail flwyddyn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 ar gampws y Rhyl.
Addawodd barhau i hyrwyddo'r Gymraeg yn y coleg, a gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael cefnogaeth, gwrandawiad a chynrychiolaeth.
Meddai Cai: "Rydw i hefyd eisiau gwella mynediad at gymorth llesiant meddyliol a chorfforol a chreu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau ar draws y ddau gampws. Gallai hyn fod yn chwaraeon fel rygbi neu chwarae gwyddbwyll, gan helpu myfyrwyr i gysylltu â'i gilydd a mwynhau eu hamser yn y coleg."
Chloe Chant (Coleg Menai)
Mae Chloe yn dilyn cwrs Iechyd a Gofal Lefel 2 ar gampws Llangefni. Addawodd wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cymell a'u parchu. Mae Chloe eisiau helpu ei chymuned a'i chyd-fyfyrwyr i wneud eu gorau a chael y gefnogaeth gywir.
"Dydw i ddim eisiau i unrhyw un deimlo ar wahân a bod dim lle iddyn nhw yn y coleg," meddai Chloe.
"Rydw i'n credu'n gryf y dylai pawb gael eu trin yn gyfartal, ond ddim yr un fath gan fod anghenion pawb yn wahanol. Ac rydw i eisiau mynd i'r afael â'r anghenion hynny."
Sian Williams (Coleg Meirion-Dwyfor)
Mae Sian yn astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, a'r Gyfraith ar gampws Pwllheli.
Addawodd weithio i sicrhau mwy o fannau cymunedol fel y gall pobl ddod i adnabod ei gilydd a mwynhau cael egwyl i leihau straen arholiadau. Mae Sian eisiau gwella profiadau pob dysgwr yn y coleg.
Meddai: "Cymuned y coleg sy'n bwysicaf i mi, gan fod hyn yn ganolog i bopeth ac yn allweddol er mwyn gwneud ffrindiau a chysylltiadau. Mae'n rhan hanfodol o fywyd a hefyd yn ffordd o gael iechyd meddwl da."
Karla Rix (Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai)
Mae Karla ar flwyddyn olaf ei chwrs BA (Anrh) mewn Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Addawodd Karla ganolbwyntio ar gryfhau ymgysylltiad, llesiant a chyflogadwyedd myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu a'u cefnogi drwy gydol eu haddysg. Mae Karla am helpu i greu profiadau dysgu rhagorol sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaethau pellach, cyflogaeth, a llwyddiant gydol oes.
Meddai: "Dw i'n frwd dros wella profiadau dysgwyr trwy greu amgylchedd dysgu cynhwysol, cefnogol a diddorol lle gall pawb wireddu eu potensial yn llawn."
Meddai Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai:
"Hoffwn longyfarch Cai, Chloe, Sian a Karla ar eu llwyddiant a phob hwyl iddyn nhw yn ystod blwyddyn academaidd 2026/2027.
"Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl ymgeiswyr a gynigiodd eu hunain ar gyfer y rolau hyn. Rydym ni'n annog y myfyrwyr hynny na fu’n llwyddiannus y tro hwn i weithio'n wirfoddol gydag Undeb y Myfyrwyr i gefnogi’r Llywyddion.
"Mae Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn recriwtio cynrychiolwyr dosbarth, sy'n rhan hanfodol o'r sefydliad. Mae'r cynrychiolwyr dosbarth yn cyfathrebu'n uniongyrchol â thîm Undeb y Myfyrwyr ac yn mynychu Paneli Llais y Dysgwyr i sicrhau bod y dysgwyr yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus eu cwrs a'u campws ac at y profiad cyffredinol o'r coleg."
I gael rhagor o wybodaeth am Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, anfonwch neges e-bost i undebymyfyrwyr@gllm.ac.uk neu ewch i gllm.ac.uk/cy/college-life/student-life/student-union