Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Menai yn dathlu llwyddiant interniaid eleni

Yn ddiweddar, cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar gampws y coleg ym Mangor i ddathlu llwyddiant yr interniaid a gefnogir.

Roedd yr wyth intern wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cael profiad gwaith gwerthfawr yn Ysbyty Gwynedd, gan dreulio pedwar diwrnod yr wythnos yn yr ysbyty ac un diwrnod yn y coleg.

Gosodwyd targedau personol i bob intern fel rhan o'u datblygiad, i’w helpu nhw i feithrin sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyflogadwyedd.

Dechreuodd y rhaglen interniaeth a gefnogir yn 2017, fel partneriaeth rhwng Coleg Menai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac Agoriad.

Mae'n rhaglen sy'n rhoi profiad gwaith i bobl ifanc, gan eu helpu i baratoi ar gyfer swyddi a'r byd gwaith.

Roedd y myfyrwyr yn trefnu eu taith eu hunain i'r gwaith, yn dysgu rheoli amser, ac yn arfer gyda threfn a chyfrifoldebau bywyd gwaith bob dydd.

“Mae pob intern wedi cyfrannu’n sylweddol at y dathliadau heddiw ac yn haeddu pob canmoliaeth am eu gwaith caled a’u hymrwymiad,” meddai Awena Pritchard-Roberts, Tiwtor yng Ngholeg Menai.

Mae'r interniaeth wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar yr wyth myfyriwr, gyda phob un wedi magu hyder a meithrin sgiliau, gan ddod yn weithwyr annibynnol. Maen nhw i gyd yn barod i gymryd eu camau nesaf ac yn symud ymlaen i swyddi cyffrous:

Mae'r hyder a'r sgiliau y mae Ava wedi'u datblygu wedi sicrhau swydd glerigol iddi yn Ysbyty Gwynedd.

Gwnaeth Elliott gymaint o argraff ar dîm Conwy nes eu bod wedi gofyn iddo aros gyda nhw fel gwirfoddolwr ar dîm y Robiniaid.

Mae gwaith caled Harvey wedi ei helpu i sicrhau lle yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn astudio Lefel 1 mewn Gweinyddu Busnes.

Daeth Nathan o hyd i'w swydd berffaith yn gweithio gyda'r tîm ystadau, a oedd yn gwerthfawrogi ei agwedd gadarnhaol, ei hiwmor a'i barodrwydd i fwrw ymlaen ag unrhyw dasg. Mae Nathan bellach yn ceisio penderfynu pa raglen hyfforddi y mae am ei dilyn.

Mae brwdfrydedd Sophie dros waith arlwyo yn golygu ei bod wedi cael cynnig swydd yn adran arlwyo'r ysbyty.

Daeth Peter yn aelod gwerthfawr o bob tîm y bu'n gweithio gyda nhw ac mae wedi gwneud cynnydd gwych eleni yn bersonol ac yn broffesiynol. Gyda'i hyder a’i annibyniaeth newydd, rydyn ni'n siŵr bod dyfodol disglair o'i flaen.

Roedd Abbey yn ychwanegiad gwych i'r adran cadw tŷ, gan chwarae rhan bwysig wrth gynnal amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i staff a chleifion, a datblygu sgiliau gwaith gwerthfawr yr un pryd.

Mae agwedd gadarnhaol, dibynadwyedd a pharodrwydd Dylan i ymgymryd ag unrhyw dasg wedi sicrhau cyfle iddo wirfoddoli gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon, gan ddechrau ym mis Awst.

Llongyfarchiadau mawr i Ava, Elliott, Harvey, Nathan, Sophie, Peter, Abbey a Dylan. Rydyn ni'n hynod falch o bopeth rydych chi wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant i chi yn y dyfodol!