Myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn dathlu ennill tair medal yn y Gemau Olympaidd Arbennig
Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu cyflawniadau Bethan Griffiths, myfyrwraig Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS), a ddychwelodd o'r Gemau Olympaidd Arbennig yn Birmingham gyda set gyflawn o fedalau.
Rhoddodd y myfyriwr o gampws Dolgellau berfformiad rhagorol mewn tair cystadleuaeth wrth iddi gynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol yn ystod yr haf. Sicrhaodd Bethan y fedal Aur yn y ras 100m, medal Arian yn y gystadleuaeth Taflu Pêl Feddal, a medal Efydd yn y Ras Gyfnewid.
Rhannodd Morfudd, tiwtor Bethan, falchder yr adran yn ei chyflawniad:
"Rydyn ni fel staff Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, yn hynod falch o gyflawniad Bethan wrth iddi ennill medalau Aur, Arian ac Efydd yng Ngemau Olympaidd Arbennig Birmingham. Yn sicr, mae ei gwaith caled a'i phenderfyniad wedi talu ar ei ganfed, ac allwn ni ddim aros i weld beth fydd hi'n ei gyflawni nesaf!"
Llongyfarchiadau Bethan, am ganlyniad gwych!