Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn Dychwelyd i Grŵp Llandrillo Menai fel Darlithydd ar ôl Cwblhau TAR “Gwych”

Mae cyn-fyfyrwraig a oedd yn breuddwydio am sefyll o flaen ystafell ddosbarth wedi cyflawni ei huchelgais drwy ddychwelyd i Grŵp Llandrillo Menai fel darlithydd ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).

Dychwelodd Jodie-Anne Davies, a raddiodd yn wreiddiol gyda BA (Anrh) mewn Lletygarwch yn 2017, i'r Grŵp y flwyddyn academaidd ddiwethaf i ddilyn ei hangerdd dros addysgu. Yn ystod ei hastudiaethau TAR, cafodd brofiad ymarferol o gyflwyno gwersi mewn Lletygarwch a Busnes.

Wrth siarad am ei hamser ar y cwrs, canmolodd Jodie y gefnogaeth ymroddedig a gafodd gan y tîm addysgu.

“Roedd y cwrs yn wych, ro'n i wrth fy modd." meddai Jodie. "Roedd Leslie a Mel, y tiwtoriaid, yn wych ac yn gefnogol iawn."

Gwnaed ei phrofiad hyfforddi hyd yn oed yn fwy arbennig gan yr wynebau cyfarwydd o'i chwmpas.

“Glen oedd fy mentor, felly roedd hynny’n wych,” ychwanegodd. “Roedd hi’n braf iawn gweithio gyda thiwtoriaid oedd wedi fy nysgu dros y blynyddoedd.”

Ar ôl cwblhau ei chymhwyster yn llwyddiannus, ymunodd Jodie â'r Grŵp fel aelod staff llawn amser. Mae hi bellach yn addysgu Teithio a Thwristiaeth, Bagloriaeth Cymru, a Busnes ar draws addysg bellach ac addysg uwch.

“Mi hedfanodd y cwrs heibio a galla i ddim credu fy mod i’n ôl yma rŵan." dywedodd Jodie. "Ro'n i wastad eisiau addysgu ac roeddwn i wrth fy modd â’r agwedd hyfforddi. Mae'n wych bod yn ôl.”

Os ydych chi wrth eich bodd yn rhannu eich gwybodaeth a'ch profiad gydag eraill, yna gallai addysgu fod y cam nesaf perffaith i chi. Ewch i'n gwefan i ddysgu rhagor am ein cyrsiau TAR a ble y gallent eich arwain: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour... <https://www.gllm.ac.uk/courses...;