Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwybr newydd i fyfyriwr aeddfed: Joseph yn rhoi ei fryd ar ddilyn gyrfa ym maes mathemateg

Dyma Joseph Yule, myfyriwr Safon Uwch yn y Rhyl yn siarad am ei brofiad o ddod yn ôl i'r coleg fel myfyriwr aeddfed oedd â gorbryder, a sut y llwyddodd i gael graddau A mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.

Mae Joseph yn un ar hugain oed ac ar ei ffordd i gyrraedd ei nod o fynd i'r brifysgol. Ond dechreuodd ei daith yng Ngholeg Llandrillo'r llynedd pan benderfynodd ei bod yn bryd iddo wella ei raddau TGAU.

"Ro'n i'n gwneud y papurau TGAU Mathemateg yn fy amser fy hun ac mi wnes i sylweddoli 'mod i isio mynd yn fy mlaen efo hynny," meddai.

Roedd Joseph eisoes wedi sefyll ei arholiadau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg a heb gael graddau digon da. Ond bellach roedd ei awydd i astudio pynciau Safon Uwch yn sbardun iddo.

Fel myfyriwr aeddfed y prif rwystr i Joseph oedd goresgyn ei orbryder. "Dyna sydd wedi fy rhwystro yn y gorffennol. Roedd yn gwneud i mi deimlo'n sâl ac roedd yn anodd dod dros hynny."

Cymerodd y cam cyntaf ym Medi 2025 pan gofrestrodd ar gyrsiau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

"Ar y pryd roedd yn anodd iawn, ac mi ges i drafferth ar y dechrau. Ond wrth i amser fynd heibio mi ddaeth pethau'n llawer haws."

Esboniodd Joseph sut y gwnaeth ei diwtor ei helpu. Roedd ei diwtor yn hawdd siarad â hi, ac roedd ar gael i roi cefnogaeth pan oedd angen hynny arno. "Roedd y ffaith ei bod hi'n deall y sefyllfa'n help, ac ro'n i'n teimlo 'mod i'n gallu gadael yr ystafell ddosbarth pryd bynnag ro'n i angen. "

Cael gwybod ei raddau ar ddiwedd y flwyddyn oedd un o'i hoff adegau yn y coleg. Roedd o'n meddwl mai C fyddai ei radd mewn Saesneg felly "roedd cael gwybod fy mod i wedi cael dwy A yn sioc aruthrol. Roedd fel petai 'na bwysau mawr wedi codi oddi ar fy ysgwyddau i, ac ro'n i'n gallu ymlacio ar ôl hynny."

Wrth siarad am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Joseph, "Dw i isio mynd i'r brifysgol i astudio Ffiseg, ac yna gweithio fel gwyddonydd neu beiriannydd efallai. Rhyw faes lle'r ydw i'n gallu defnyddio fy mathemateg, oherwydd dyna rydw i am ganolbwyntio arno fo rŵan."

Mae stori Joseph yn dangos sut y gall addysg newid cyfeiriad eich bywyd, beth bynnag fo'ch oedran. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau eich stori gyda ni, ewch draw i'r wefan i gael golwg ar yr amrywiaeth o gyrsiau sydd gennym i oedolion: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/adult-learners-part-time

O wella eich Saesneg a'ch mathemateg i gyrsiau proffesiynol a chyrsiau addysg uwch, mae 'na rywbeth i bawb yng Ngrŵp Llandrillo Menai.