Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Adeiladu dyfodol disglair: Coleg Llandrillo yn dathlu llwyddiant ei Brentisiaid Iau

O sgiliau defnyddiol i lwybrau gyrfa newydd, mae'r dysgwyr yn dathlu cwblhau eu Prentisiaeth Iau yng Ngholeg Llandrillo.

Yr wythnos hon cynhaliodd Coleg Llandrillo ei seremoni wobrwyo diwedd blwyddyn gyntaf erioed ar gyfer Prentisiaethau Iau. Eleni cafodd dysgwyr y rhaglen gyfle i ddathlu eu cyflawniadau gyda'u teuluoedd a'u tiwtoriaid.

Cyflwynodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo, dystysgrif i bob dysgwr gan eu llongyfarch ar eu perfformiadau rhagorol yn ystod eu hastudiaethau.

Mae'r rhaglen yn cyfuno pynciau craidd â chymysgedd o'r crefftau adeiladu. Cafodd y dysgwyr y cyfle i ddod i astudio am Dystysgrif Estynedig mewn Sgiliau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, a chael y cyfle i astudio pynciau eraill, fel mathemateg a Saesneg ar yr un pryd.

Drwy gydol eu Prentisiaeth Iau, enillodd y dysgwyr sgiliau ymarferol mewn gweithdai o safon y diwydiant, gan roi cyfle iddynt fagu hyder, ffurfio cyfeillgarwch newydd, ac archwilio'r gwahanol opsiynau a'r gwahanol lwybrau sydd ar gael iddynt yn y coleg.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Carwyn, Luke, Jordan, Noah a Cheski yn ôl i Goleg Llandrillo ym mis Medi pan fyddant yn parhau i astudio gyda ni ar gyrsiau llawn amser, ac rydym yn dymuno'r gorau i Rhys a Frankie wrth iddyn nhw ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant.

“Dw i wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd,” meddai Cheski. “Mae adeiladu yn gafael ynoch chi. Dw i eisiau gwneud mwy ohono! Dw i wedi gwneud cais i ddod yn ôl i wneud gwaith plymio a gwaith trydanol y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd Jordan, “Mae hyn wedi agor llawer o gyfleoedd i mi. Dw i'n gwybod beth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol rŵan, a dw i'n edrych ymlaen at ddod yn ôl i'r coleg i wneud gosod brics yn llawn amser.”

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ac effaith ein rhaglen Prentisiaeth Iau ar gyfer y dysgwyr a’u teuluoedd. Rydyn ni'n falch o allu rhoi cyfle i'r dysgwyr hyn adeiladu sylfaen gref yma yng Ngholeg Llandrillo, gan eu galluogi i symud ymlaen i astudio'n llawn amser a hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol, gan ddod yn y pen draw yn weithlu medrus y dyfodol.

“Roedd heddiw'n gyfle ardderchog i gydnabod a dathlu gwaith caled a llwyddiant ein dysgwyr Prentisiaeth Iau gyda'u teuluoedd a’u tiwtoriaid.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n staff ymroddedig am y gefnogaeth sydd wedi gwneud y cyflawniadau hyn yn bosibl."

Mae mentrau Prentisiaeth Iau ar y gweill i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 10 ac 11 ledled siroedd Conwy a Dinbych. Rydym yn annog unrhyw ddisgyblion neu rieni sy'n meddwl y gallai hyn fod yn addas i chi i ofyn i'ch ysgol am ragor o wybodaeth.