Adeiladu pontydd rhwng addysg bellach a diwydiant: Myfyrwyr Coleg Menai yn elwa o dderbyn hyfforddiant gan Celt
Cafodd myfyrwyr cwrs Technoleg Cerddoriaeth Lefel 3 Coleg Menai ym Mangor gipolwg ar fywyd yn y diwydiant cerddoriaeth pan wnaethon nhw weithio gyda Celt, y band roc Cymraeg, yn stiwdio gerddoriaeth wych y coleg.
Defnyddiodd Celt eu degawdau o brofiad i roi awgrymiadau ar y broses greadigol o ysgrifennu a chynhyrchu cerddoriaeth wrth i'r myfyrwyr ddechrau gweithio ar aildrefnu cyfres o ganeuon ar gyfer y band.
Clywodd Barry 'Archie' Jones, prif leisydd y Celt, am y stiwdio gerddoriaeth yng Ngholeg Menai gan ei ffrind, y tiwtor Rhys Parry. Cafodd Archie wahoddiad gan Rhys i ddod i weld y cyfleusterau.
“Ro'n i wedi fy syfrdanu gan ansawdd yr offer,” meddai Archie. "Mi wnaeth o 'ngadael i'n geg agored. Mi ddechreuon ni siarad am y myfyrwyr sydd ar y cwrs Cerddoriaeth Lefel 3, a be maen nhw wedi bod yn 'i wneud, a rhyngom ni mi ddaeth 'na gynllun,” ychwanegodd.
“Roedd gen i rai caneuon ro'n i eisiau eu recordio, ond do'n i ddim yn siŵr iawn ynglŷn â pha gyfeiriad i fynd â nhw. Felly ro'n i'n meddwl y byddai'n braf eu rhoi nhw i'r genhedlaeth iau, i ddod â'u hegni nhw i mewn, a gweld beth allen nhw wneud.”
Gweithiodd y myfyrwyr gyda’i gilydd ar gynhyrchu caneuon Archie, gan ennill profiad amhrisiadwy o weithio’n uniongyrchol gyda chleient.
“Mae dod â’r diwydiant i’r coleg yn gyfle gwych iddyn nhw,” meddai Archie. "Mae o'n beth da i ninnau hefyd. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers amser maith, ac mae'n braf cael persbectif gwahanol weithiau. “Mae’r myfyrwyr yn cael gweld cerddorion wrth eu gwaith, ac yn cael cydweithio efo nhw. Mae'n rhoi sgiliau cyflogadwyedd gwych iddyn nhw, gan fod cyfathrebu'n allweddol wrth weithio gyda chleientiaid sydd â gweledigaeth neu syniad am yr hyn maen nhw ei eisiau.”
Nid dyma fydd cysylltiad olaf Celt â Choleg Menai. Mae Archie wedi dweud eu bod yn meddwl am ffyrdd eraill o gydweithio â'r coleg, fydd yn parhau i adeiladu pontydd rhwng addysg bellach a'r byd gwaith, gan helpu myfyrwyr i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lansio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Ydych chi'n meddwl am yrfa yn y byd cerddoriaeth? Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni fis Medi! Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael gan y Grŵp: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/music-and-music-technology