Myfyriwr Celf o Goleg Llandrillo yn cyflwyno morfil plastig anferth i Sw Môr Môn
Mae Jodie Roberts, myfyrwraig ar y cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio wedi creu argraff gyda'i phrosiect blwyddyn olaf, sef morfil dau fetr o hyd o'r enw Humphrey a grëwyd yn gyfan gwbl o blastig wedi'i ailgylchu.
Dyluniodd Jodie'r cerflun enfawr i dynnu sylw at broblemau llygredd plastig a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan ddefnyddio deunyddiau o'r siop Asda leol.
"Ro'n i eisiau creu rhywbeth mawr oedd yn golygu rhywbeth," eglurodd Jodie. "Pe bai o'n un bach, fyddai neb yn sylwi arno. Ond gobeithio bydd ei faint yn gwneud i bobl stopio a meddwl am yr holl blastig rydyn ni’n ei ddefnyddio."
O wastraff gardd i gelfyddyd gain
Fel artist tecstilau, roedd gweithio gyda phlastigau anhyblyg a strwythurau trwm yn newydd i Jodie. I adeiladu Humphrey, fe ailgylchodd hen bibellau dŵr, hula-hoops, a rhwyll gardd a achubwyd o fin sbwriel ei thad, cyn defnyddio gwn gwres i lapio'r strwythur mewn plastig.
Yna defnyddiodd ddulliau trin tecstilau, gan gynnwys techneg o'r enw traponto, ar y strwythur plastig i greu gwead unigryw a realistig. Mae gan y morfil lygaid gwydr, a greodd Jodie yn ystafell wydr arbenigol y coleg.
"Mae'r cwrs sylfaen yn gyfle i ddysgu a bod yn ddyfeisgar," meddai Jodie. "Roedd gweithio gyda gwydr a phlastig yn hollol newydd i mi. Dyma'r peth mwyaf dw i erioed wedi'i greu."
Nid Humphrey oedd yr unig ddarn oedd gan Jodie i brocio’r meddwl yn Arddangosfa Diwedd Blwyddyn Coleg Llandrillo. Roedd hi hefyd wedi creu cyfres o sglefrod môr crog rhyngweithiol wedi'u gwneud o blastig ac enillodd y gorau yn y sioe am ei gwaith. "Y syniad ydi bod cydwybod y bobl sy’n cerdded drwyddyn nhw’n cael ei ‘bigo’ am eu bod yn defnyddio cymaint o blastig," meddai hi.
Cartref parhaol ger y môr
A beth fydd yn digwydd i'r morfil dau fetr o hyd ar ddiwedd y cwrs? Mae Humphrey eisoes wedi cael cartref parhaol.
"Ro'n i'n gwybod na fyddai'n ffitio yn fy nghar nac fy nhŷ!" chwarddodd Jodie. "Dw i'n mynd i Sw Môr Môn yn aml gyda fy nith a dw i wrth fy modd gyda'u harddangosfeydd celf, felly cysylltais â nhw i weld a fyddent yn ei dderbyn fel rhodd. Ro’n i’n falch iawn pan gytunon nhw. Mae'n wych bod pobl am ei weld o yno."
Gyda'i blwyddyn olaf ar ben, mae Jodie eisoes yn edrych tua'r dyfodol, gyda chynlluniau i lansio ei busnes creadigol ei hun a gwerthu ei gwaith celf.
Bydd Humphrey'r morfil i'w weld yn Sw Môr Môn yn fuan.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y diwydiannau creadigol? Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau celf, dylunio a ffotograffiaeth sydd ar gael yn y Grŵp: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography