Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

⁠Llwyddiant cyn-fyfyriwr Peirianneg ar y môr

Harry Windsor, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo yn trafod sut arweiniodd ei gwrs at yrfa ar y môr.

Daeth Harry Windsor, cyn-fyfyriwr o'r coleg i drafod llwybrau gyrfa gyda dysgwyr o adran Peirianneg Forol, Coleg Llandrillo, ynghyd â'r cyfleoedd sydd ar gael ar ôl cwblhau’r cwrs.

Cwblhaodd Harry gwrs Peirianneg Forol Lefel 2 yn y coleg yn 2023. Mae newydd droi’n 20 oed, ac mae’n hwylio’r moroedd mawr, yn gweithio fel Cadet gyda Disney Cruises. Enw'r llong ddiwethaf iddo weithio arni oedd 'The Dream'.⁠ .

Nid gweithio ar long cadetiaid oedd dewis cyntaf Harry, yn y lle cyntaf roedd eisiau gweithio ym maes peirianneg fferm. Ond erbyn hyn, mae'r falch iawn ei fod wedi rhoi cynnig arni!

“Mae gweithio ar y llong wedi agor fy llygaid i’r hyn sy’n bosibl.” meddai Harry.

Ar ôl ennill ei brofiad ar y môr , mae Harry yn anelu at gymhwyso fel 3ydd peiriannydd erbyn y flwyddyn nesaf. Ei nod yn y pen draw ydy dod yn Brif Beiriannydd a gweithio ar gychod hwylio ysblennydd. Trafododd ei yrfa gyda'r myfyrwyr, gan bwysleisio bod ei gyfnod yng Ngholeg Llandrillo wedi rhoi iddo egwyddorion peirianneg y mae bellach yn eu defnyddio ar y llongau mordeithio.

Mae wedi gallu gwneud defnydd llawn o'r sgiliau trosglwyddadwy a ddysgodd yma, ac maen nhw'n rhoi mantais iddo yn ei rôl, yn enwedig yn ystod y broses gyfweld.

Rhannodd gyngor syml a hynod bwysig â'r myfyrwyr cyn gadael: “Dysgwch gymaint ag y gallwch chi.”

Mi wnaeth eu hannog i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, gan gynnwys y profiad gwaith, y dysgu ymarferol a'r tiwtoriaid sydd wedi gweithio yn y diwydiant eu hunain.

Pwysleisiodd cyn-diwtoriaid Harry fod ystod eang o lwybrau gyrfa ym maes Peirianneg Forol a bod nifer o gyfleoedd swyddi ar gael.

Gallwch weld y gwahanol gyrsiau peirianneg Grŵp Llandrillo Menai yma: www.gllm.ac.uk/cy/courses/engineering-and-power-technology

P'un a ydych chi'n gadael yr ysgol eleni, yn chwilio am newid gyrfa neu eisiau symud ymlaen yn y diwydiant, mae gennym gwrs i chi!