Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noson wobrwyo Coleg Menai yn cydnabod dysgwyr rhagorol

Cynhaliodd y coleg Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr 2025/26 ar ei gampws yn Llangefni i ddathlu llwyddiant y dysgwyr hynny sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn.

Dathlodd Coleg Menai lwyddiant myfyrwyr rhagorol 2025/26 yn ei Seremoni Flynyddol i Wobrwyo Cyflawnwyr.

Yn y seremoni ar gampws Bangor cyhoeddwyd mai Somadina Emmanuel-Chukwudi oedd 'Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn', tra cafodd 16 o'i chyd-fyfyrwyr hefyd wobr am ragori yn eu meysydd rhaglen (mae rhestr lawn o'r enillwyr i'w gweld isod).

Mwynhaodd yr enillwyr araith gan Elle Maguire - cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a pherchennog salon llwyddiannus - wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau.

Bob blwyddyn, gwahoddir darlithwyr o bob maes pwnc i enwebu myfyrwyr am wobr, a rheolwr y maes rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno.

Yn y seremoni cyflwynir tlws i bob enillydd, cyn cyhoeddi enw Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn - a ddewisir gan y Pennaeth - ar ddiwedd y noson.

Yn y seremoni nos Iau cyflwynodd Pennaeth Coleg Menai, Dr Siôn Peters-Flynn, wobr Cyflawnwr y Flwyddyn a thaleb gwerth £200 i Somadina sy'n fyfyriwr yn yr adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Disgrifiodd Dr Peters-Flynn Somadina fel “myfyriwr sydd wedi dangos cymhelliant, gwydnwch, a chyflawniad eithriadol”, gan dynnu sylw at safon uchel ei gwaith, ac at ei phroffesiynoldeb yn ystod ei lleoliad gwaith. Cymaint oedd yr argraff a wnaeth tra roedd hi yn Fairways nes iddi sicrhau swydd fel Cynorthwyydd Gofal yno.

Enillodd Somandina, a symudodd i Gymru ddwy flynedd yn ôl, wobr Cyflawnwr y Flwyddyn yn ei maes rhaglen hefyd. Mae hi'n bwriadu symud ymlaen i astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Caer ym mis Medi.

Ymysg enillwyr eraill y meysydd rhaglen roedd Llio Lowes, sy'n fyfyriwr Safon Uwch, ac Ashton Thomas, myfyriwr Peirianneg.

Mae angerdd Llio dros gemeg a'i phenderfyniad i astudio meddygaeth yn disgleirio, ond yr hyn sy'n gwneud iddi sefyll allan mewn gwirionedd ydy ei sgiliau cyfathrebu naturiol a'i pharodrwydd i gamu ymlaen, boed i helpu ei chyd-ddisgyblion neu i wirfoddoli i siarad mewn digwyddiadau. Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae ei gwaith fel gwirfoddolwr mewn ysbyty yn dangos bod ganddi gydymdeimlad tuag at bobl eraill ac awydd i ofalu amdanyn nhw - rhinweddau na ellir eu dysgu, ond a fydd yn ei gwneud yn feddyg ardderchog.

⁠Mae Ashton wedi ennill gwobr rhwydwaith leol yr IET (Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg) am ragoriaeth. Mae cyflawniadau rhagorol Ashton eleni yn cynnwys ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth Gweithgynhyrchu Ychwanegion, a mynd ymlaen i gipio'r fedal aur yng nghystadleuaeth genedlaethol Sgiliau Cymru. Mae ei benderfyniad tawel a'i agwedd ardderchog at waith yn ei wneud yn fodel rôl gwych i'w gyfoedion.

Yn y seremoni, cyflwynodd Dr Peters-Flynn gapiau i'r myfyrwyr oedd wedi cynrychioli Cymru mewn chwaraeon yn ystod y flwyddyn academaidd. Cafodd cyfanswm o 15 o fyfyrwyr eu capio eleni. Meddai Dr Peters-Flynn: “Gyda’i gilydd mae’r unigolion hyn wedi profi bod Coleg Menai yn ganolfan dalent.”

Mae'r myfyrwyr canlynol wedi llwyddo i gyfuno her eu gwaith academaidd â'r hyfforddiant diddiwedd sy'n gysylltiedig â dod yn athletwyr elitaidd: Alex Cunningham, Gwion Parry, Cai Williams, Callum Hughes, Jac Williams, Steffan Alford, Amber Roberts, Angharad Jones, Catrin Roberts, Deian Andrews, Erin Basinger, Morgan Davies, Cai Roberts (pêl-droed), Ffion Mair (nofio) and Ela Williams (Gymnasteg).

Cyflwynwyd gwobrau hefyd er cof am y cyn-fyfyrwyr o Goleg Menai, Chloe Bidwell a Rhun Jones.

Cyflwynwyd ysgoloriaeth newydd eleni er cof am y diweddar Huw Gethin Jones, a oedd yn gweithio fel golygydd i gwmni cynhyrchu teledu Rondo Media. Roedd cyfle i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Teledu a Ffilm, Cyfryngau, Cerddoriaeth, a Chelfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai wneud cais am yr ysgoloriaeth sy'n werth £1000, ac a fydd yn rhedeg am ddeng mlynedd. Summer Jones oedd enillydd yr ysgoloriaeth eleni.

Wrth agor y seremoni, dywedodd Dr Peters-Flynn: “Fi sy'n cael y fraint o gyflwyno'r gwobrau nodedig hyn i'r myfyrwyr sy'n cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad dros y deuddeg mis diwethaf.

“Mae'r enillwyr heno 'ma wedi cael eu henwebu am eu bod yn fyfyrwyr sydd wedi bod yn barod i fynd yr ail filltir, wedi goresgyn rhwystrau neu wedi rhagori yn eu pynciau. Dyna sy'n gwneud y gwobrau hyn yn rhai arbennig iawn ac mae hi'n fraint cael eu cyflwyno.”

Y siaradwr gwadd oedd Elle Maguire, a ddilynodd gyrsiau Trin Gwallt o Lefel 1 i Lefel 3 yng Ngholeg Menai rhwng 2013 a 2015. Dychwelodd Elle i'r coleg i gwblhau cymhwyster Lefel 4. Ar ôl graddio yn 2022, cofrestrodd ar raglen TAR y flwyddyn ganlynol.

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Menai 2025/26:

Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn / Gwobr Iechyd a Gofal gyda Gofal Plant: Somadina Emmanuel-Chukwudi

Gwobr Goffa Rhun Jones (Peirianneg Cerbydau Modur): Tyler Williams

Gwobr 'Anelu at y Sêr' Chloe Bidwell (Adeiladu): Dymtro Lukyanenko

Gwobr y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg: Ashton Thomas

Gwobr Ysgoloriaeth Huw Gethin: Summer Jones

Mynediad i Addysg Uwch: Aimee Goddard

Lefel A (Gwyddoniaeth): Llio Lowies

Celf a Dylunio⁠: Elain Walker

Astudiaethau Busnes a Theithio a Thwristiaeth: Beca Williams

Orlaith Jones

ESOL: Mohammad Rahimi

⁠Celfyddydau Mynegiannol: Llewelyn Parry

⁠Gwallt a Harddwch: Olha Bushuieva

Lletygarwch ac Arlwyo: Morgan Jones

Dysgu Gydol Oes: Emily Court

Cyfryngau, Datblygu Gemau a TG:⁠ Elliot Page

Sgiliau Bywyd a Gwaith:

Enfys Jones

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: Josie Whitlock

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Elain Morgan

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol.