Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seremoni wobrwyo flynyddol yng Ngrŵp Llandrillo Menai'n tynnu sylw at ymrwymiad staff i'r Gymraeg

Mae Gwobrau Cymraeg y Grŵp 2025/26 yn dathlu llwyddiant staff sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu'r iaith a'r rhai sydd wedi gwneud mwy na'r disgwyl i gefnogi cydweithwyr a myfyrwyr i wella eu sgiliau Cymraeg.

"Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yma! Rydw i'n gwybod bod gen i ffordd bell i fynd, ond rydw i'n edrych ymlaen at bob cam o'r daith," meddai Michelle Crocker, darlithydd ESOL ac un o enillwyr y wobr Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn.

O Bennaeth Coleg Llandrillo, Paul Flanagan i reolwyr, darlithwyr a staff cefnogi, cafodd 19 aelod o staff o bob rhan o'r Grŵp eu cydnabod yn ddiweddar mewn seremoni wobrwyo ar gampws LLandrillo-yn-Rhos.

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: "Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd. Yn ogystal â bod yn her bersonol mae dysgu Cymraeg wedi bod yn fraint – mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd – ac mae magu hyder yn yr iaith wedi dyfnhau fy ngwerthfawrogiad o'i phwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd i'n hardal.

"Mae Coleg Llandrillo wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein cymunedau; mae'n gyfrifoldeb arnom nid yn unig i gyflwyno sgiliau a chymwysterau ond hefyd i feithrin hunaniaeth, cyfleoedd, a synnwyr o berthyn. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hynny. Gobeithio y bydd hyn yn annog cydweithwyr a dysgwyr i gymryd eu camau eu hunain ymlaen – waeth pa mor fychan – oherwydd mae pob sgwrs, pob gwers a phob ymdrech yn helpu i gryfhau ein diwylliant dwyieithog i'r dyfodol."

Mae Dysgwyr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn i gyd ar wahanol gamau o'u taith i ddysgu Cymraeg, ond maent i gyd yn mynychu gwersi ac yn manteisio ar bob cyfle i wella eu sgiliau drwy ymarfer, a thrwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd newydd.

Yn ôl enillydd arall, Kimberly Farrell a darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Ar ôl symud i ogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2023 ro'n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn bod yn rhan fwy o'r gymuned a gallu cysylltu gymaint â phosib â'r diwylliant."

Ymhlith yr enillwyr eraill roedd dysgwyr Cymraeg lefel uwch neu siaradwyr Cymraeg sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eraill i wneud Grŵp Llandrillo Menai yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Caiff Pencampwyr Cymraeg y Flwyddyn eu cydnabod am eu hymrwymiad i helpu eraill i fagu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth ddyddiol i fyfyrwyr a chydweithwyr.

"Mae cael fy nghydnabod fel hyn yn golygu llawer iawn i mi ac rydw i'n falch o chwarae fy rhan i gefnogi a dathlu'r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein gwaith yn y coleg," meddai'r Pencampwr Cymraeg, Malcolm Roberts sy'n ddarlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Enwebir yr aelodau staff gan eu rheolwyr, gyda phanel wedyn yn dewis yr enillwyr.

Cadeirydd y panel eleni oedd Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol a Chadeirydd Panel Iaith GLlM, ac roedd yn cynnwys Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai; Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau; Siân Pritchard, Rheolwr Sgiliaith, Datblygu Dwyieithog a Chydraddoldeb; a Gwenan Roberts, Tiwtor Cymraeg.

Yr enillwyr eleni yw:

Dysgwyr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Rheolwyr

James Nelson

Sharon Bowker

Paul Flanagan

Gavin Jones

Pencampwyr Cymraeg y Flwyddyn

Rhian Owena Hughes

Malcolm Roberts

Dysgwyr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Staff Addysgu

Kimberly Farrell

Tudor Morris

Tom Parry

Cara Baker

Collette McDowell

Lynne Moody

Michelle Crocker

Dysgwyr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Staff Cefnogi

Leon Arndt

Lisa Nobbs

Heather Evans

Suzanne Jones-Roberts

James Penney

Elisabeth Kettlewell

Cafodd yr enillwyr eu llongyfarch gan Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol a Chadeirydd Panel Iaith GLlM, ac fe gyflwynwyd llyfr a llun mewn ffrâm iddynt gan yr artist, yr awdur a’r dysgwr Cymraeg o Gaerdydd, Joshua Morgan, sy'n fwy adnabyddus fel Sketchy Welsh.

Meddai Gwenllian: "Fel prif ddarparwr addysg a hyfforddiant dwyieithog yng Nghymru, mae'r Grŵp yn ymfalchïo’n fawr yn ymdrech ac ymroddiad ei staff i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg.

"Mae'n bleser mawr cael bod yn rhan o'r gwobrau hyn. Mae'r seremoni nid yn unig yn dathlu'r gwaith arloesol mae ein staff anhygoel yn ei wneud bob dydd i sefydlu'r Gymraeg yn eu gwaith, ond hefyd yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. O greu adnoddau dwyieithog i greu amgylcheddau cefnogol i gydweithwyr a myfyrwyr ymarfer yr iaith a chynnal digwyddiadau i ddathlu diwylliant Cymru, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod gan ein dysgwyr y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, nid yn unig yn y dosbarth ond ym mhob agwedd ar eu bywyd.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i'r holl staff sy'n dysgu Cymraeg ac i'r cydweithwyr sy'n eu cefnogi ar eu taith. Nhw yw'r allwedd i lwyddiant Grŵp Llandrillo Menai yn ei ymdrech i fod yn sefydliad lle mae'r Gymraeg nid yn unig yn bresennol, ond hefyd yn cael ei dathlu. Rydyn ni'n falch iawn ohonoch chi i gyd."

Dywedodd Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: “Rydyn ni'n hynod o falch o ymdrechion ein staff, o'r rhai sy'n cychwyn ar eu taith i ddysgu Cymraeg i'r pencampwyr sy'n sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o'n gwaith ni bob dydd. Mae eu hymrwymiad yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar ein dysgwyr, gan greu amgylchedd cefnogol lle mae'r Gymraeg yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn rhan naturiol o fywyd y coleg. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ein rôl flaenllaw fel darparwr dwyieithog yn y sector Addysg Bellach ac yn ategu ein hymrwymiad diwyro i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg."