Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwobr Nyrsio Milfeddygol Genedlaethol i Hyfforddwr o Glynllifon

Rydym ni wrth ein bodd fod Laura Lacey, aelod ymroddedig o'r tîm yng Glynllifon, wedi ennill gwobr Addysgwr Nyrsio Milfeddygol 2026 CQ (Central Qualifications).

Laura yw Pennaeth y Ganolfan Nyrsio Milfeddygol yng Glynllifon ac mae hi hefyd yn asesydd ar gyfer Prentisiaethau Nyrsio Milfeddygol. Derbyniodd y wobr nodedig mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Central Hall, Westminster ar 28 Mawrth 2026. Cyflwynwyd y tlws iddi gan Gordon Buchanan, sy'n adnabyddus am ei ffilmiau natur.

Cydnabod Rhagoriaeth wrth Addysgu

Mae gwobr Addysgwr Nyrsio Milfeddygol y Flwyddyn yn dathlu ymroddiad a gwaith caled y staff sy'n cefnogi myfyrwyr nyrsio milfeddygol. Yr hyn sy'n gwneud y wobr hon yn arbennig yw bod Laura wedi cael ei henwebu gan ei myfyrwyr, a ganmolodd ei dealltwriaeth, ei hymdrech a'i hymroddiad.

Ysgrifennodd un myfyriwr: "Oni bai am ei chyfraniad a'i hymroddiad hi, fyddai yna ddim gymaint o Nyrsys Milfeddygol hyderus ac arbennig yn gweithio yng ngogledd Cymru heddiw."

O'r chwith i'r dde, Cari Mason Williams, Ela Pugh, Laura Lacey, Ela Alcock, Cara Morgan

Cyfoeth o Brofiadau i'n Myfyrwyr

A chanddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, mae gan Laura lawer i'w gyfrannu yn ei swydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Dechreuodd ei gyrfa'n gofalu am geffylau gan symud i'r maes anifeiliaid bychan yn 2001. Ymunodd â Glynllifon yn 2017, gan ddod yn Bennaeth y Ganolfan Nyrsio Milfeddygol yn 2024.

Mae Laura'n frwd iawn dros ddysgu seiliedig ar waith, gan fod prentisiaid yn cael cyfle i gyfuno gwaith ymarferol â dysgu'r theori hanfodol.

"Dw i'n croesawu'r cyfleoedd dysgu cinesthetig y mae'r llwybr diploma'n eu cynnig, ac mae'n wych gallu cefnogi'r dysgwyr i gymhwyso gwaith theori ochr yn ochr â hyn," meddai.

"Dw i am fod yn diwtor y mae'r myfyrwyr yn meddwl amdani mewn ffordd bositif – un sy'n ysbrydoli a chefnogi," ychwanegodd Laura. "Rydw i'n falch o fod yn rhan o ddatblygiad y genhedlaeth nesaf. Dw i wrth fy modd yn eu gweld nhw'n ffynnu mewn diwydiant sy'n golygu gymaint i mi, hyd yn oed ar ôl chwarter canrif!"

Llongyfarchiadau mawr i Laura!

Os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr sydd am ddechrau gyrfa yn y diwydiant, neu'n fusnes lleol sy'n awyddus i gymryd prentis, ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/coursetype/apprenticeships ⁠i gael gwybod rhagor am yr hyn all Grŵp Llandrillo Menai ei gynnig i chi.