Graddedigion Rhaglen Interniaeth a Gefnogir 2025/26 Coleg Llandrillo yn dathlu mewn seremoni diwedd blwyddyn
Yn ddiweddar, dathlodd Coleg Llandrillo gyflawniadau ei raddedigion Rhaglen Interniaeth a Gefnogir, gan nodi diwedd blwyddyn arall i'r rhaglen arloesol.
Yng nghwmni eu teuluoedd, ffrindiau, tiwtoriaid a chydweithwyr o Asda, daeth y myfyrwyr ynghyd i fyfyrio ar eu cyflawniadau ac edrych tua’r dyfodol.
Mewn partneriaeth â Phrosiect DFN SEARCH ac Asda, mae'r rhaglen hon a arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau, y profiad a'r hyder hanfodol sydd eu hangen ar bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu gyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth i sicrhau gwaith cyflogedig.
Dyma'r ail flwyddyn i'r rhaglen gael ei chynnal gan Goleg Llandrillo, ac mae'n ffurfio rhan o fenter genedlaethol gydag Asda sy'n bartner mewn 23 o raglenni interniaeth tebyg ledled y DU.
Mae effaith y rhaglen naw mis o hyd yn mynd ymhell y tu hwnt i hyfforddiant sylfaenol yn y gweithle. Drwy ennill profiadau mewn adrannau gwahanol yn Asda, mae interniaid yn dysgu llywio deinameg gweithleoedd go iawn, goresgyn rhwystrau personol, ac ailddiffinio'n llwyr yr hyn maen nhw'n credu sy'n bosibl ar gyfer eu dyfodol.
Tynnodd Tracey Hockson, darlithydd Sgiliau Bywyd a Gwaith Coleg Llandrillo, sylw at y twf emosiynol a phroffesiynol a welwyd yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle. Wrth siarad am yr effaith gadarnhaol mae'r rhaglen wedi'i chael ar godi hyder ac uchelgais, dywedodd am un dysgwr: “Mae wedi agor ei lygaid i’w alluoedd, mae wedi sylweddoli beth allai ei wneud, ac mae eisiau cyflawni mwy.”
Adlewyrchir gwir lwyddiant carfan 2025/26 yn y ffaith fod y pedwar ohonynt yn camu'n syth i gyflogaeth neu i rolau cyffrous yn y gymuned:
Mae Kayleigh wedi sicrhau swydd yn y diwydiant lletygarwch.
Llwyddodd Kyle i ennill profiad gwych mewn swydd glanhau a thrwy wirfoddoli yn Venue Cymru, ac mae bellach yn ymgeisio am swyddi eraill.
Mae James R a James H ill dau wedi llwyddo i sicrhau swyddi tymhorol gydag Asda.
Wrth sôn am ei brofiadau wrth gymryd rhan yn y rhaglen, dywedodd James R:
"Mae'r cwrs hwn wedi bod yn wahanol ac yn ddefnyddiol ac wedi ein helpu i gael swydd dda yn y diwedd. Mae'n dysgu llawer o sgiliau gwahanol i chi a chewch gwrdd â staff newydd a gwneud ffrindiau newydd. Rydw i wedi cael fy nghefnogi pan oedd ei angen arnaf."
Rhannodd James H neges galonogol am sut gwnaeth y profiad ei helpu i oresgyn pryderon dwys oedd ganddo yn y gweithle:
"I mi, mae'r cwrs hwn wedi fy helpu i feithrin fy hyder dros y naw mis diwethaf. Ar ddechrau'r daith hon, doeddwn i ddim yn hyderus ac roeddwn i'n teimlo dan straen am ddod i'r gwaith a rhyngweithio â chwsmeriaid nad oeddwn i erioed wedi cwrdd â nhw o'r blaen.
“Mae bod mewn grŵp braf a chael y gefnogaeth gywir wedi fy helpu'n fawr hefyd. Rydw i wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau ac wedi dysgu llawer yn ystod y rhaglen. Fe ges i gyfle i weithio mewn gwahanol feysydd ac adrannau yn y siop; gwnaeth pob un ddysgu deinameg gwahanol i mi. Mae wedi bod o fudd mawr i mi. Roeddwn i hefyd yn ymlaen yn dda gyda chydweithwyr yn Asda ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn.
"Hoffwn i ddiolch i Tracey, Ryan a Ffion am eu holl gymorth a chefnogaeth yn ystod y rhaglen. Hefyd, hoffwn ddiolch i Asda am fy nghyflogi a rhoi cyfle i mi ddangos pa mor weithgar ydw i, sydd wedi bod yn garreg filltir fawr i mi."
Llongyfarchiadau mawr i Kayleigh, Kyle, James R, a James C. Rydym yn hynod falch o bopeth rydych chi wedi'i gyflawni a'ch ymroddiad.