Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tiwtor plastro Grŵp Llandrillo Menai yn derbyn gwobr: yn cydnabod ei ddylanwad cadarnhaol ar fyfyrwyr ac ar y diwydiant

Yn ddiweddar derbyniodd Richard Jones, athro plastro ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, y wobr Cyfraniad Oes i Hyfforddi yng Ngwobrau cenedlaethol Hyfforddiant Plastro a Chrefftau Mewnol.

Mae'r gwobrau, a gynhelir yn flynyddol, yn gydweithrediad rhwng FIS a’r Worshipful Company of Plaisterers i gydnabod cyflawniad a rhagoriaeth yn y sector plastro a ffitiadau mewnol.

Wrth wneud sylwadau ar y wobr, dywedodd Richard: “Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth fy nghydweithwyr.”

Mentor ac un sy'n magu hyder

“Bywyd o waith caled mewn ffordd ddidwyll,” yw sut mae ei gydweithwyr yn crynhoi effaith Richard yn Grŵp Llandrillo Menai.

Gyda 40 mlynedd o brofiad plastro, mae Richard wedi bod yn ysbrydoli myfyrwyr adeiladu yng Ngholeg Llandrillo ers 22 mlynedd. Yn hael gyda'i wybodaeth, mae gan y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd barch mawr ato. Mae ei natur dawel yn gwneud i fyfyrwyr deimlo'n gyfforddus ac mae hefyd yn ei helpu i arwain a mentora staff newydd. Mae cydweithwyr Richard yn dweud ei fod yn mynd y tu hwnt i fod yn diwtor, gan ddisgrifio ei hun fel “pont rhwng yr ystafell ddosbarth a’r byd go iawn”.

Mae Richard wedi ymroi i helpu ei fyfyrwyr i ddatblygu a dod yn blastrwyr medrus. Gwnaeth gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol, gan gadw i fyny â thueddiadau allweddol y diwydiant a sicrhau bod gan fyfyrwyr yr hyder a'r arfau sydd eu hangen arnynt i gychwyn ar eu gyrfaoedd yn y diwydiant.

Mae Richard hefyd yn neilltuo amser i helpu ei fyfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau. O dan adain, mae dysgwyr Coleg Llandrillo wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau adnabyddus, gan gynnwys Plastrwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Hyfforddi FIS, gan ddatblygu eu sgiliau a chael ymdeimlad o gyflawniad a balchder yn eu gwaith.

“Nid yn unig ei fod o'n dysgu'r myfyrwyr sut i fod yn blastrwyr gwych; mae’n eu dysgu i fod yn bobl wych,” meddai un cydweithiwr.

Newid golwg y byd adeiladu

Mae Richard hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth o fewn plastro, a oedd yn draddodiadol yn cael ei ystyried fel llwybr gyrfa i ddynion ifanc. Yn ôl ei gyfoedion, os ydym am annog pobl o bob cefndir, oedran a gallu i ymuno â'r diwydiant adeiladu, “allwn ni ddim gwneud hynny heb bobl fel Richard.”

Mae un o gyn-fyfyrwyr Richard yn cynnwys dynes oedd yn awyddus i newid gyrfa. Meddai: “Wnaeth Richard ddim fy nhrin fel rhywun oedd yn ‘rhy hen’ i ddechrau gyrfa newydd; mi welodd botensial. Mae rhywbeth arbennig am ddylanwad Richard yn y coleg; mae o wedi creu amgylchedd lle gall merched ragori mewn maes sydd yn aml yn cael ei ddominyddu gan ddynion.”

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Rydym wrth ein boddau bod cyflawniadau a chyfraniad Richard i Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu cydnabod gyda’r wobr Cyfraniad Oes. Mae ei effaith ar fyfyrwyr y gorffennol a'r myfyrwyr presennol yn bellgyrhaeddol. Mae ei ymroddiad i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial ac i'w paratoi ar gyfer gyrfa foddhaol mewn diwydiant sy'n newid yn gyflym yn golygu bod y genhedlaeth nesaf o blastrwyr i ddod drwy ein drysau mewn dwylo diogel iawn.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn blastrwr, neu os ydych chi eisiau ennill sgil newydd, gallwch ddysgu rhagor am ein cyrsiau adeiladu a'n llwybrau gyrfa yma: https://www.gllm.ac.uk/courses/cy/construction-and-the-built-environment