Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai'n Cyhoeddi Cyrsiau Newydd i Ddechrau ym mis Tachwedd!

Wyt ti am ddechrau cwrs coleg ond ddim eisiau aros tan y flwyddyn nesaf?
Oeddet ti wedi bwriadu dechrau cwrs coleg fis diwethaf ond yn poeni dy fod yn awr wedi colli'r cyfle? Wel... meddylia eto!

Oherwydd y galw, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o gyrsiau llawn amser yn dechrau ym mis Tachwedd ar draws ei Coleg Llandrillo.

P'un ai a wyt ti wedi gwneud y dewis anghywir ar ôl gorffen dy arholiadau TGAU, angen gwella dy gymwysterau i gael swydd well neu fynd i'r brifysgol, yn ddi-waith, neu'n chwilio am ddechrau newydd yn unig, rydym ni yma i helpu.

Ymhlith y meysydd rhaglen sydd â rhaglenni'n dechrau ym mis Tachwedd mae: Cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL); Lefel A; Trin Gwallt; Therapi Harddwch; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant; Gwasanaethau Cyhoeddus; Adeiladu, a Theithio a Thwristiaeth.

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys prif gymhwyster galwedigaethol ynghyd â sgiliau hanfodol i ddatblygu dy lythrennedd a’th rifedd.

Mae'r campysau sydd â chyrsiau'n dechrau ym mis Tachwedd yn cynnwys Abergele, Y Rhyl a Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:

Campws Abergele:

Tystysgrif CACHE Lefel 2 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu (Cynorthwywyr Addysgu)

Campws Llandrillo-yn-Rhos:

AS/Lefel A Bioleg

AS/Lefel A Cymdeithaseg

Therapi Harddwch Lefel 1

Therapi Harddwch Lefel 2

Cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) - Lefel Mynediad 2

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2

Llwybr i Sgiliau Adeiladu

Teithio a Thwristiaeth Lefel 2

Campws Y Rhyl:

Therapi Harddwch a Thechnoleg Ewinedd Lefel 2

Mynediad i Iechyd a Gofal

Trin Gwallt Lefel 3

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2

Meithrin Sgiliau ar gyfer Coleg

Gwneud Gwaith Peirianneg, Lefel 1 (Weldio)

Paratoi i Weithio yn y Diwydiant Trin Gwallt

Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3


Gwna gais ar ein gwefan heddiw, neu cysyllta â ni ar: www.gllm.ac.uk, anfona neges e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk, neu ffonia'r llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338.