Gogoniant y Grand Slam: Sêr Academi Bêl-droed Grŵp Llandrillo Menai yn dod â Tharian y Canmlwyddiant Adref i Gymru
Chwaraeodd chwe seren ifanc o Grŵp Llandrillo Menai ran allweddol yng nghystadleuaeth bêl-droed ryngwladol Tarian y Canmlwyddiant (SAFIB) 2026 . Gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 23 Ebrill, enillodd tîm dan 18 Ysgolion Cymru'r grand slam – a chodi’r Darian dros Gymru am y trydydd tro mewn pum mlynedd wedi iddynt ennill pob gêm.
Llongyfarchiadau mawr i Sam Parry (Lefel 3 mewn Chwaraeon) o Goleg Llandrillo; Cai Roberts (Lefel 3 mewn Chwaraeon), a Deian Andrews (Peirianneg ac Adeiladu), o Goleg Menai; a Charlie Griffith (Lefel 3 mewn Chwaraeon), Osian Morris (Lefel 3 mewn Peirianneg) ac Owen Roberts (Lefel 3 mewn Chwaraeon) o Goleg Meirion-Dwyfor.
Chwaraeodd pob un o'r chwe myfyriwr o Academi Bêl-droed Grŵp Llandrillo Menai yng ngêm olaf y gystadleuaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghlwb Pêl-droed Llandudno, gan ennill Tarian y Canmlwyddiant i Gymru.
“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi ennill,” meddai Sam.
Rhes gefn, o'r chwith i'r dde - Owen Roberts, Osian Morris, Sam Jones, Cai Roberts, Marc Lloyd Williams. Rhes flaen, o'r chwith i'r dde - Charlie Griffith, Deian Andrews.
Cafwyd ambell her ar y daith i godi'r Darian - y gêm olaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oedd gêm gyntaf y gystadleuaeth i'r tîm o Gymru i fod, ond cafodd ei gohirio oherwydd gwyntoedd cryfion.
Ond ni effeithiodd hyn ddim ar y tîm, ac aethant ymlaen i guro'r Alban a Gogledd Iwerddon, gan ddod yn fuddugol am y trydydd tro yn y gêm olaf oedd yn cael ei chwarae gartref.
Sgoriodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai ddwy o dair gôl y tîm yng ngêm olaf y gystadleuaeth. Daeth gôl gyntaf y gêm gan Charlie Griffith yn yr un ar ddeg munud cyntaf, gan roi Cymru ar y blaen. Yna cafodd Owen Roberts gyfle i sgorio tua diwedd yr ail hanner, gan roi’r tîm o Gymru ar y blaen eto ar ôl gôl gyfartal gan Iwerddon.
“Roedd yn teimlo’n dda,” meddai Charlie am sgorio’r gôl gyntaf.
Roedd y chwe myfyriwr wedi hyfforddi'n galed ar gyfer y gemau dros y misoedd diwethaf. Teithion nhw i'r Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer y gemau oddi cartref, ac yn aml roedden nhw’n cael sesiwn hyfforddi munud olaf ar ôl taith hir.
“Mae wedi bod yn anodd,” meddai Charlie. “Ond mae'r holl waith caled wedi talu ar ei ganfed i gael codi'r Darian,” ychwanegodd.
“Mae gallu hyfforddi tair gwaith yr wythnos gyda’r Academi wedi fy helpu yn fy ngyrfa bêl-droed”, meddai Sam. “Rydyn ni’n cael chwarae gêm bob dydd Mercher ac rydyn ni hefyd yn cael defnyddio cyfleusterau’r gampfa yn y coleg, sy’n wych.”
Meddai Marc Lloyd Williams, Rheolwr y tîm a Thiwtor a Hyfforddwr Pêl-droed yng Ngholeg Menai: “Mae’n gyflawniad arbennig gan yr holl fyfyrwyr. Mae'r ffaith bod traean o'r y garfan yn dod o Grŵp Llandrillo Menai yn dyst i'r llwybr rydyn ni'n ei ddarparu yn y Grŵp i fyfyrwyr gyfuno eu haddysg â chwaraeon elît.
“Fedra i ddim diolch digon i’r hogiau am eu holl ymdrech ac ymroddiad dros y tymor. Maen nhw wedi dod i bob sesiwn hyfforddi, gartref neu oddi cartref, ac wedi dal i fyny â'u hastudiaethau yn y coleg hefyd.
“Mae ennill Tarian y Canmlwyddiant am y trydydd tro mewn pum mlynedd yn anghredadwy. Ar ôl chwarae i'r garfan fy hun flynyddoedd maith yn ôl, mae'n wych.
“Gweriniaeth Iwerddon oedd y tîm gorau i ni chwarae yn ei erbyn yn y twrnamaint, felly mae gen i barch mawr iddyn nhw.”
Mae Academïau Chwaraeon y Grŵp yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflawni eu potensial ym maes chwaraeon a llwyddo’n academaidd. Gallwch ddewis chwarae pêl-droed neu rygbi ochr yn ochr ag unrhyw gwrs galwedigaethol. Golyga hyn y gallwch ennill cymwysterau a pharhau i hyfforddi a datblygu ym maes chwaraeon yr un pryd!
Mae'r academïau hefyd yn darparu cyfleoedd i chi gael eich dewis i chwarae ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, er mwyn cyflawni eich potensial yn llawn.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes chwaraeon? Ewch i'n gwefan i weld yr amrywiaeth o gyrsiau y mae'r Grŵp yn eu cynnig: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education
A hoffech chi chwarae yn un o'r Academïau Chwaraeon a chyfuno'ch astudiaethau â chyfleoedd i chwarae ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol? Darllenwch ragor yma: https://www.gllm.ac.uk/cy/college-life/student-life/gym-sports-academies