Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Staff Grŵp Llandrillo Menai Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud y Ras Arfordirol i Ofalu er budd elusen

Mae un ar ddeg aelod o staff Grŵp Llandrillo Menai yn paratoi i wthio eu hunain i'r eithaf trwy gymryd rhan mewn her elusennol a drefnwyd i godi arian i Ysbyty Plant Alder Hey ac Ysbyty Gwynedd.

O'r 2il i'r 3ydd o Orffennaf, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg pedair milltir bob pedair awr, am 48 awr. A rhag ofn nad ydi hynny'n ddigon caled, bydd y tîm wedyn yn rhedeg 82 milltir dros nos yr holl ffordd o Ysbyty Gwynedd ym Mangor i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

Y rhedwyr:

Tony Fitzmaurice, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Klare Holland-Jones, Arweinydd Tîm Gweinyddol Dysgu Seiliedig ar Waith

Gwyn Williams, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Owain Evans, Swyddog Arholiadau

Dylan Parry, Uwch Gynorthwyydd Cefnogi Arholiadau

Rob Humphreys, Uwch Swyddog Data a Systemau Gwybodaeth

Liz Hughes, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Jan Lloyd Roberts, Swyddog Lleoliadau Gwaith Dysgu Seiliedig ar Waith

Jenny Davies, Cydlynydd Llesiant Staff

Gethin Jones, Swyddog Addysg Uwch

Chris Hughes, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith

"Bydd pob cyfraniad, mawr neu’n fach, yn helpu pobl eraill ac mae hynny'n sbardun gwych," meddai Jenny, sy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r tîm. "Dw i wrth fy modd yn rhedeg ar lwybrau ond mae rhedeg ar ffordd yn dipyn o her i mi, felly dw i'n falch o gefnogaeth ac agwedd gadarnhaol y tîm!"

Nododd Chris ei fod "yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r tîm ar y diwrnod," gan ychwanegu bod yr hyfforddi wedi bod yn mynd yn dda a'i fod wedi dewis cymryd rhan oherwydd ei fod "wrth ei fodd yn cael her" a "bod yr achos yn un mor deilwng".

Pwysleisiodd Owain gyfraniad yr elusennau a ddewiswyd: "Dw i'n falch o ymuno â'r tîm i gefnogi Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey, dau sefydliad sydd wedi helpu llawer iawn o bobl yn yr ardal."

Mae meithrin y stamina corfforol sydd ei angen ar gyfer rhedeg dros nos wedi gofyn am fisoedd o ymroddiad, gan arwain at gerrig milltir personol mawr i'r rhedwyr.

Disgrifiodd Klare ei gwaith paratoi fel "her ddeuol" o wthio ei therfynau personol wrth godi arian hanfodol i ysbytai lle mae llawer o'i hanwyliaid wedi cael profiad o'u gwaith anhygoel.

Wrth ystyried ei chynnydd, nododd Klare ei bod wedi mynd "o 5k i 16 milltir hyd yma", gan brofi ei phenderfyniad i "fynd yr ail filltir er mwyn eraill" a gwneud gwahaniaeth mawr.

Ond anaml y bydd hyfforddi ar gyfer digwyddiad sy'n gofyn am y fath ddygnwch yn mynd yn ôl y cynllun, ac mae'r rhedwyr wedi gorfod goresgyn rhwystrau corfforol ar hyd y ffordd.

Mae Gethin, rhedwr brwd a oedd yn awyddus iawn i gefnogi'r achosion, wedi gorfod ymdopi ag anaf yn ddiweddar. "Mae fy hyfforddi yn mynd yn iawn, ond roedd rhaid i mi arafu dros yr wythnosau diwethaf gan fy mod i wedi tynnu cyhyr croth y goes," eglurodd Gethin. Yn ffodus, mae'r anaf yn gwella'n dda, ac mae wedi cadw'r momentwm trwy "redeg yn aml gyda fy merch yn ei bygi yn y Parkrun yn Llandrillo-yn-Rhos".

Yn y pen draw, dydi unrhyw anafiadau bach neu waith hyfforddi blinedig yn ddim byd o'u cymharu â'r gwir bwrpas y tu ôl i'r her. Nododd Liz fod y milltiroedd y mae'r staff yn eu rhedeg yn "ddim byd o'i gymharu â'r hyn y mae teuluoedd yn ei wynebu" wrth ddelio â salwch yn ystod plentyndod.

"Dw i am ddefnyddio hyn i gefnogi plant a theuluoedd sy'n wynebu heriau llawer mwy nag unrhyw waith hyfforddi," meddai Liz. "Os ydi fy rhan i yn y daith hon yn rhywfaint o gymorth i Ysbyty Gwynedd ac Alder Hey, yna mae pob cam yn werth chweil."

Mae ein rhedwyr yn gweithio’n ond mae angen eich cefnogaeth arnyn nhw. Byddem wrth ein bodd pe gallech gefnogi ein staff ymroddgar wrth iddynt ymgymryd â'r her sylweddol hon. Mae pob cyfraniad yn helpu teulu mewn angen.

I gyfrannu a dilyn eu cynnydd, ewch i'r dudalen codi arian swyddogol: Tudalen Rhoddion Her yr Arfordir GLlM

Pob lwc i'r tîm!